y gallasai ein tadau osgoi'r holl flinderau hyn yn hwylus trwy fygu eu hargyhoeddiadau a chydymffurfio. Ond ni fynnent brynu eu rhyddid ar draul gwerthu eu hegwyddorion. Aent allan o wydd eu barnwyr yn llawen am eu cyfrif yn deilwng i ddioddef dros y gwirionedd.
Gellir cymhwyso geiriau'r Beibl am grefyddwyr yr Hen Oruchwyliaeth atynt hwythau hefyd "Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt, yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau, ac ogofeydd y ddaear; yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr." Hwy a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie, trwy rwymau hefyd a charchar. Hwynt-hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw âr cleddyf, ac a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared."
Ceir rhai a ddysgant, er hynny, nad oedd yr Anghydffurfwyr ond ffanaticiaid sur, wedi meddwi ar ragfarn at yr Eglwys Sefydledig, a heb fedru gwerthfawrogi dim ond eu mympwyon cul eu hunain. Llawn gormod o dasg i undyn a fyddai profi bod disgyblion John Owen, a John Howe, a John Milton, a John Bunyan yn greaduriaid salw a diddim. A chredaf fod yr hyn a ddigwyddodd ar ddiwedd y cyfnod hwn yn ddigon i wrthbrofi syniad o'r fath. Pan oedd dioddefiadau'r Anghydffurfwyr yn ingol dros ben-merched yn yr Alban yn cael eu rhwymo wrth bolion ar y traeth i foddi yn araf pan godai'r llanw; gwraig yn Llundain yn cael ei llosgi yn lludw am noddi un o'i chydnabod a geisiai ddianc rhag cosb; ugeiniau o Anghydffurfwyr Gwlad yr Haf yn cael eu dienyddio, a'u cyrff yn braenu ar bob croes ffordd, a channoedd eraill yn cael eu gwerthu yn gaethion i India'r Gorllewin am iddynt ymladd dros yr hyn a ystyrient hwy yn rhyddid pan oedd pethau fel yna, yn sydyn cyfryngodd Rhagluniaeth ar eu rhan mewn modd nodedig iawn. Fe ffraeodd yr erlidwyr â'i gilydd, aeth y llys a'r eglwys yn ben-ben, a dacw'r fantol yn llaw'r Anghydffurfwyr dirmygedig. Cyn iddynt bron sylweddoli'r peth, yr oedd y brenin wedi caniatáu rhyddid iddynt, gan ddisgwyl eu hennill felly i'w bleidio ef yn erbyn yr eglwys a'i hesgobion.
Ni buasai'n syndod mawr pe gwrandawsent arno. Onid da cael esmwythder rywfodd o gyflwr mor adfydus, "heb ofyn dim er mwyn cydwybod." Ond chwarae teg i'r hen Anghydffurfwyr, er iddynt ddadlau ac ymladd llawer tros ryddid, ni fynnent ryddid anghyfreithlon. Od oedd gan y brenin hawl i newid y gyfraith yn ôl ei ewyllys ei hun, pa le yr oedd hawliau'r deiliaid? I ba beth yr oedd Senedd da? Wedi ystyried y sefyllfa, penderfynasant wrthod cynnig y brenin, a sefyll wrth gefn arweinwyr yr Eglwys Sefydledig, a addawai basio deddf goddefiad trwy'r Senedd mor fuan ag y gellid gorchfygu'r brenin, a thrwy hynny estyn iddynt ymared mwy cyfreithlon.