Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Byddai'n burion i'r rhai a soniant fyth a hefyd am genfigen a chulni Ymneilltuaeth gofio am yr enghraifft hon o fawrfrydigrwydd. Yn y cyfrwng tywyllaf a welodd Eglwys Loegr er y dydd y sefydlwyd hi, pan oedd ei Phen daearol hi ei hunan wedi ymddiofrydu i'w difetha, safodd yr hen Anghydffurfwyr yn ffyddlon iddi, er bod dwylo'r Eglwys yn goch gan waed eu brodyr a'u chwiorydd ar y pryd. Achubwyd rhyddid gwladol a chrefyddol ein gwlad mewn canlyniad i'w ffyddlondeb hwy i'w hegwyddorion a'u parodrwydd i anghofio'r camwri a arferasid tuag atynt am genedlaethau.

2. Pan atelid oddi wrth Anghydffurfwyr freintiau cyffredin deiliaid y wlad.

Nid oeddynt yn criminals mwyach yng ngolwg y gyfraith. Taenai Deddf Goddefiad ei hadain trostynt. Achwynir llawer ar y ddeddf honno yn ein dyddiau ni, ac, mewn theory, amhosibl yw ei hamddiffyn. Y naill ddyn yn goddef i ddyn arall addoli Duw yn ôl ei gydwybod! Ond er hynny, da iawn a fu ei chael, a phan gofiwn ei bod ar un ergyd yn atal gweithrediad un-ar-ddeg o hen ddeddfau gorthrymus, hawdd credu haneswyr pan ddywedant nad oes ar lyfrau y deyrnas hon heddiw yr un ddeddf a roddodd derfyn ar gymaint o ddioddef ag a wnaeth Deddf Goddefiad. Dug hon ein tadau trwy'r Mor Coch, ond ysywaeth yr oedd cryn ffordd eto i Ganaan. Yn lle'r Eifftiaid, daeth Amaleciaid, ac er na fedrai'r olaf flino Israel fel y gwnâi'r cyntaf, gwnaent eu gorau mewn llawer ffordd i'w drygu. Sonia Solomon am flinder neilltuol, gan ei gyffelybu i "ddefni parhaus ar ddiwrnod glawog," ac nid hwyrach y gwnâi'r gymhariaeth y tro i ddisgrifio cyflwr Ymneilltuwyr yn y cyfnod hwn. Nid oeddynt mwyach allan yng nghynddaredd y dymestl, na, yr oedd Deddf Goddefiad yn do drostynt. Ond llwyddodd yr erlidiwr i gadw'r tô hwnnw'n dyllog am ganrif a hanner o amser. Disgynnai'r defni ar y trueiniaid o hyd, ac ychydig o gysur a thawelwch a fwynheid ganddynt. Yr oedd mân gystuddiau'r cyfnod hwn bron cymaint o orthrymder ysbryd i'r Ymneilltuwyr, ac o braw ar eu ffyddlondeb, ag oedd helyntion garwach y cyfnod blaenorol. Oblegid gŵyr pob un ohonom ei bod mor hawdd syrthio o flaen profedigaeth gymharol fechan ag yw o flaen un llawer mwy.

Enwn rai o'r ffyrdd y blinid Ymneilltuwyr y cyfnod :—

(1) Trwy fygwth yn barhaus, a chynnig weithiau am ddiwygio Deddf Goddefiad, h.y., ei newid nes bod yn dda i ddim. Bu agos iddynt â llwyddo yn eu hymgais droeon, a'r tebyg yw y buasent wedi llwyddo oni bai am Dŷ'r Arglwyddi,—chwarae teg i hwnnw. Gildiodd y Tŷ hwnnw unwaith, a thrwy farwolaeth y frenhines ar y dydd yr oedd y newid i ddyfod i rym y cafwyd ymwared. Nid rhyfedd i'r dydd hwnnw fod yn 'ddydd o lawen chwedl,' am flynyddoedd gan yr Ymneilltuwyr.