(2) Trwy gynhyrfu'r werin i ymosod arnynt. Ni feiddiai'r swyddogion wneuthur hynny yn awr, ond gallent arfer eu dylanwad ar yr anwybodus i ymosod a wincio ar eu hafreolaeth ar ôl hynny. Felly chwalwyd yr unig gapel a feddai'r Ymneilltuwyr yn Sir Drefaldwyn yn y flwyddyn 1714, sef Capel Llanfyllin.
(3) Trwy wrthod gweinyddu'r gyfraith i'w hamddiffyn. Cydffurfwyr oedd mewn awdurdod fel ynadon drwy'r deyrnas, a phan apeliai'r Ymneilltuwyr atynt am drwydded i weinidog neu gapel yn ôl y gyfraith, gwrthodid hwy o dan ryw esgus neu'i gilydd yn aml iawn. A beth allai diadell o bobl ddiniwed a thlodion ei wneud at gael cyfiawnder, pan wrthodid trwydded iddynt, ac yna eu herlid am weithredu heb drwydded? Amhosibl yw canmol gormod ar y Dissenting Deputies yn y cysylltiad hwn. Naw ugain mlynedd yn ôl, ffurfiwyd cymdeithas yn Llundain, sydd mewn bod hyd heddiw, i amddiffyn hawliau eu brodyr mewn rhannau anghysbell o'r wlad.
Difyr iawn yw darllen eu hanes yn dwyn ambell grachormeswr i'r llwch. Ond caent gryn drafferth ar y dechrau. Pan gamdriniwyd Lewis Rees o Lanbrynmair mor erchyll nes peryglu ei fywyd, cymerodd y gymdeithas ei achos mewn llaw, ond methwyd â chael un cyfreithiwr trwy holl Ogledd Cymru oedd yn barod i ddadlau ei achos er bod y gyfraith yn amlwg o'i blaid. O hynny allan, gofalai'r gymdeithas am anfon cyfreithiwr i lawr o Lundain.
(4) Trwy eu herlyn yn y llysoedd am y pethau mwyaf afresymol. Erlynid y gweinidogion am fedyddio, erlynid y fam am beidio â dod i'r eglwys i'w rhyddhau ar ôl esgor, a'r tad am beidio â thalu'r fees i'r offeiriad er mai'r gweinidog a fyddai wedi gwasanaethu. Gwrthodid priodi Ymneilltuwyr weithiau fel y byddent dan orfod i fyned i Ysgotland i wneud, neu fodloni ar fynd drwy'r seremoni ger bron eu gweinidogion eu hunain, yr hyn nad oedd yn briodas yng ngolwg y gyfraith. Gwrthodid darllen y gwasanaeth claddu yn angladd plant yr Ymneilltuwyr, a phan baratoesant fynwentydd Ymneilltuol ceisiai'r offeiriad dâl claddu er na buasai'n agos i'r lle. Ceisiai'r clochydd fod cystal gŵr â'i feistr drwy erlyn yr Ymneilltuwyr am dâl am lanhau eu seddau yn yr eglwys er na buasent erioed yno. Ac os gwrthwynebid y ceisiadau hyn teflid yr achos i lys yr esgob, ac ni byddai'n waeth i'r Ymneilltuwyr fyned i'r purdan ar unwaith na myned i'r fan honno.
(5) Ond prif arf y gelynion i flino'r Ymneilltuwyr oedd Deddf y Praw-lwon-Test Act. Rhyw hen addodwy gorthrymus oedd hwn a adawsid yn y nyth pan basiwyd Deddf Goddefiad. Addawsai'r esgobion y pryd hwnnw eu bwrw allan yn union, ond cymerasant saith ugain mlynedd i wneud hynny. Amddifadai hyn yr Ymneilltuwyr o'u hawliau fel dinasyddion oni chydymffurfient. Nid oedd obaith i'r un ohonynt gael swydd o