Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dan y brenin neu o dan gorfforaeth dinas heb fyned i'r eglwys i gymuno. Beth bynnag a fyddai eu cymwysterau, ni chaent ymgyrraedd at ffon y cwnstabl, heb sôn am gadair y maer. Gwarthnodid hwy fel bodau is-raddol i'w cymdogion, fel rhyw Gibeoniaid hollol annheilwng o bob ymddiriedaeth. Nodwn un enghraifft i ddangos nodwedd y ddeddf.

Yn y flwyddyn 1745 daeth y Pretender drosodd i'r deyrnas hon i geisio goresgyn a gweithio'i ffordd i'r orsedd. Yr oedd y wlad mewn dirfawr berygl, yr Alban wedi ei darostwng, y fyddin bron i gyd ymhell ar y cyfandir yn ymladd â'r Ffrancwyr, a'r trawsfeddiannydd wedi cyrraedd o fewn taith ychydig oriau i'r brifddinas, lle yr oedd y cyffro mwyaf, a'r Bank of England wedi dechrau talu allan mewn chwecheiniogau. Yn y cyfwng yma mentrodd yr Ymneilltuwyr ffurfio catrawd o filwyr i ymladd dros y llywodraeth er mwyn dangos eu teyrngarwch i'r orsedd. Ond beth fu'r canlyniad? Pan gilgwthiwyd y gelyn pasiodd y Senedd ddeddf i faddau i fwyafrif y gwrthryfelwyr am geisio dadymchwelyd y llywodraeth, ac ar yr un anadl i faddau i'r Ymneilltuwyr am feiddio ei hamddiffyn. Pan oedd eraill yn medi gwobrwyon ac anrhydedd am wasanaethu eu gwlad yn yr un ffordd yn union, cafodd yr Ymneilltuwyr yn rasol iawn faddeuant y wlad honno.

Fel yna y bu'r Test Act yn offeryn cyfleus iawn yn nwylo'r gwrthwynebwyr. Darparai'r Ddeddf hon fod pob Ymneilltuwr a gymerai swydd heb gymuno yn yr eglwys yn agored i ddirwy o £500. Tua'r flwyddyn 1748 yr oedd Corfforaeth Dinas Llundain yn adeiladu'r Mansion House. Er mwyn blino'r Ymneilltuwyr a chael arian at yr adeiladau yr un pryd, pasiwyd bye-law ganddynt, dan yr esgus o sicrhau personau cymwys i swyddi cyhoeddus, yn trefnu bod dirwy o £400 ar bob person a enwid yn ymgeisydd am swydd sirydd oni safai etholiad, a £600 o ddirwy ar bob un a etholid oni wasanaethai'r swydd. Yn awr, wele'r Ymneilltuwyr rhwng deugorn y deddfau gwrthwynebol hyn. Os gwasanaethent heb gydymffurfio, gafaelai'r Test Act ynddynt am £500; os gwrthodent wasanaethu, gafaelai'r gyfraith newydd ynddynt am £600. Wrth gwrs, nid oedd eisiau eu gwasanaeth. Twyll oedd hynny, oblegid enwid y personau mwyaf anghymwys os meddent eiddo.

Enwid rhai amhwyllog, gorweddiog, dall, etc. Eu harian yn unig a chwenychid. Wedi dioddef yr annhegwch dybryd am chwe blynedd a thalu £1,500 mewn dirwyon, apeliasant at y llysoedd am amddiffyniad. Meddylier amdanynt—dyrnaid o Ymneilltuwyr yn erbyn corfforaeth y ddinas gyfoethocaf yn y byd! Teflid yr achos o lys i lys er mwyn difetha eu hadnoddau, a bu raid iddynt ddwyn y cyngaws ymlaen am dair-blynedd-ar-ddeg cyn i Dŷ'r Arglwyddi droi'r fantol o'u hochr. Ond bu'r