Ymneilltuwyr yn ffyddlon i'w hegwyddorion trwy'r cwbl, ac enillasant i ni hynny o freintiau a chydraddoldeb a feddwn heddiw.
Cofiwn, wrth eu mwynhau, mai â swm dirfawr o ddioddefiadau y cafwyd hwy, a cheisiwn sylweddoli ein rhwymedigaethau fel canlynwyr y gwŷr a roddodd eu heinioes i farw, ac a gymerodd eu hysbeilio o'r pethau a oedd ganddynt yn llawen er mwyn rhyddid cydwybod a theyrngarwch i'r gwirionedd.
"Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech." Ni olyga hyn ein bod i yngan pob "Shibboleth" yn hollol fel y gwnaent hwy na'n bod i'n llywodraethu'n hollol gan law farw'r gorffennol. Ond golyga ein bod i ddal i fyny'r faner dros y gwirionedd mawr,—Iesu Grist yn unig Ben i'w Eglwys, y Beibl yn unig reol ffydd ac ymarweddiad, a chysegredigrwydd cydwybod rhag pob ymyriad gan y rhai oddi allan.
Gadawaf y cyfnod arall i'r siaradwyr fydd yn dilyn. Er bod tipyn o ormes yn perthyn i hwn weithiau, galwn i ef, ar y cyfan, fel cyfnod y llwgr-wobrwyo. Wedi i ŵg fethu â siglo'r Ymneilltuwyr, arferwyd gwên a deniadau. Ac i ambell feddwl nid hwyrach fod y rhain yn anos i'w gwrthsefyll. Fferm i'w chael am gefnu ar y capel: ffafr meistr a goruchwyliwr, manteision ynglŷn â'r fasnach, addysg golegol yn rhad i fachgen tlawd am wadu ffydd ei dadau. Ie, yn y dyddiau diwethaf hyn, y mae'r ffordd yn rhydd i'r llanc o fainc y seiat i'r fainc esgobol. A gall yr Eglwys ddweud yn ddistaw am dderbynwyr y ffafrau hyn, "Y rhai y diystyraswn eu tadau i'w gosod gyda chŵn fy nefaid."
A feddwn ni ar ddigon o ruddin i ddal yn wyneb hudoliaeth yn ogystal â bygythiad? Ymddengys yn awr nad rhaid i ni ddal yn hir iawn. Nid oes ond Iorddonen rhyngom a thir ein gwlad. Ond rhag y bydd rhaid troi'n ôl i'r anialwch am flynyddoedd eto, y mae yn werth inni ymdrechu am ffydd i gredu mewn goruchafiaeth derfynol, tegwch ac uniondeb yng nghysylltiadau crefyddol ein gwlad, ac amynedd i ddisgwyl am hyn oll.
(Cyfarfod Misol y Graig, Mai 30, 1912).