Felly, o chaniateid cais Harri, digiai llywodraethwr yr Almaen, lle'r oedd y Babaeth eisoes yn siglo o dan ergydion Luther. Ar y llaw arall, oni chaniateid y cais, ni wyddid yn y byd ba gwrs a gymerai "Amddiffynnydd y Ffydd." Yn ei benbleth, chwaraeodd y Pab yr hen ystryw o ohirio'r dyfarniad mor hir ag y medrai. Cadwyd yr achos i redeg am flynyddoedd, nes o'r diwedd i Harri ddiflasu a chymryd y gyfraith a'r cwbl i'w law ei hun. Aeth pethau o ddrwg i waeth rhyngddynt, a chyn hir penderfynodd Harri y mynnai ef fod yn ben yn Lloegr yn eglwysig yn ogystal ag yn wladol. Yr oedd hwn yn gam go fawr i'w gymryd—lleygwr i fod yn ben yn yr eglwys—un na feddai hawl i fedyddio baban na phregethu na chysegru offeiriad i'w swydd. Ond llwyddodd i ennill cefnogaeth y wlad trwy gynnig abwyd go ddeniadol i'r offeiriaid ac i'r gwŷr mawr. Y Pab a benodai esgobion a phob swyddog o bwys yn yr Eglwys o'r blaen, ac nid oedd gan Sais na Chymro obaith am safle da heb dalu'n ddrud i Rufain amdano. Fel rheol, penodid gwŷr o'r Eidal i'r lleoedd brasaf, a gofalai'r rhai hynny drachefn am eu perthynasau a'u cyfeillion, nes creu anniddigrwydd cyffredinol yn y wlad tuag at y tramorwyr. Yn awr, addawai Harri atal yr arfer o benodi tramorwyr pan fyddai ef yn Ben, a hefyd atal yr holl daliadau ariannol i Rufain fel na thlodid y wlad mwyach yn y ffordd honno. Dyna'r wobr i ddenu'r gwŷr llên. Yn awr am yr uchelwyr. Yr oedd yn Lloegr a Chymru'r pryd hwnnw gannoedd o fynachlogydd, a rhai ohonynt yn gyfoethog iawn mewn arian a thiroedd. Y mynachod oedd ysgolheigion y dyddiau hynny, a hwy a elwid fynychaf i wneuthur ewyllysiau hen bendefigion ofergoelus a oedd yn awyddus i wneuthur rhyw iawn am eu bywyd pechadurus. Gofalai'r mynach fynnu rhan o'r ystad i'w fynachlog cyn addo maddeuant a heddwch i'r testamentwr. Aeth yr arfer i'r fath eithafion fel y gorfodwyd y Senedd i'w warafun rhag i diroedd y wlad fynd i gyd yn eiddo i'r Eglwys. Wedi iddo gweryla â'r Pab, ymaflodd Harri yn eiddo'r mynachlogydd bron i gyd, ac ar ôl cadw rhan iddo'i hun, rhannodd y gweddill rhwng gwŷr ei lys. Dyna ddechreuad rhai o'r hen ystadau yn y wlad hon.
Gwelir, felly, nad argyhoeddiad o wirionedd a wahanodd ein gwlad ni oddi wrth Eglwys Rufain y pryd hwnnw. Cyfleustra hunanoldeb mewn un ffurf neu arall oedd y diwygiad yn y cylchoedd uchaf. Yn y cylchoedd isaf, yr oedd yma bobl o ddifrif, Pabyddion yn ogystal â Phrotestaniaid, ac erlidiai Harri y naill a'r llall yn ddiwahaniaeth—y Pabydd am wadu ei uchafiaeth ef, a'r Protestant am wadu trawsylweddiad yr elfennau yn y Sacrament.
Yr unig fraint a enillodd y diwygwyr yn ystod oes Harri oedd cael caniatâd i ddarllen y Beibl yn yr iaith Saesneg.
Ar ôl Harri, daeth ei fab Edward i'r orsedd yn fachgen naw