Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

-mlwydd oed, a pharhawyd y gwaith diwygiadol ganddo ef a'i gynghorwyr, a oedd gan mwyaf yn Brotestaniaid. Ond nid oedd neb ohonynt yn ddynion cryfion iawn, ac ofnent newid na symud nemor ddim ymlaen. Yn wir, symudasant yn ôl mewn un peth. Chwarae teg i Rufain, caniatâi hi lawer o ryddid i'r gwahanol rannau o'r wlad ynglŷn â ffurf y gwasanaeth crefyddol. Yr oedd gan York ei dull arbennig, ac felly Lincoln a Bangor hefyd, ac nid ymyrrai neb oddi allan â hwy, ond caent addoli'n ôl eu hen arfer. Ond, yn awr, penderfynwyd sefydlu unffurfiaeth trwy gyfraith a gorfodi pawb i'w mabwysiadu neu i fod tan berygl dirwy a charchar. Gwaeth na'r cwbl, yr hen ffurf Babyddol wedi ei hail-wampio, chwedl Robert Ellis, Ysgoldy, oedd y ffurf newydd. Yr un modd gyda'r gwisgoedd offeiriadol; gorfodwyd gweinidogion y diwygiad i wisgo'r hen wisgoedd Pabaidd neu dderbyn cosb am wrthod. Yn ychwanegol, cadwyd llawer o'r hen seremoniau, megis arwydd y Groes, a rhaid oedd cydymffurfio neu ddioddef. Y mae'n anhygoel y dioddefiadau a achoswyd gan bethau oedd mor ddibwys. Ymadawsai'r diwygwyr ar y Cyfandir yn llwyrach o lawer oddi wrth arferion y Babaeth. Ai rhai o Brotestaniaid Lloegr yno, a dychwelent yn llawn awydd am gyffelyb ryddid yma. Hwynt-hwy a'u canlynwyr a gyfenwyd yn y man yn Biwritaniaid. Dewiswyd un ohonynt, sef Hooper, yn Esgob Caerloyw, ond carcharwyd ef am naw mis am iddo wrthod gwisgo'r gwisgoedd offeiriadol i'w gysegru. Ei ddadl yn erbyn oedd fod perygl i'r bobl feddwl eto fel yn nyddiau'r Babaeth fod rhinwedd yn y wisg, a'i fod yntau mewn ufudd-dod i orchymyn y Beibl yn "casau'r wisg a halogwyd."

Gwelir, felly, mai rhyddid i wlad gyfan yn unig a enillwyd trwy'r Diwygiad. Yr oedd Lloegr fel gwlad yn rhydd oddi wrth Rufain a phob gwlad arall. Ond nid oedd yn Lloegr ddim rhyddid personol i neb o'i deiliaid. Yr oedd John Jones a David Davies yn llawn mor gaeth ag y buont erioed.

Bu farw Edward yn ieuane iawn, a daeth ei chwaer Mary, a elwir yn Fari Waedlyd, i'r orsedd. Merch oedd hon i'r wraig a ysgarwyd gan Harri, ac yr oedd yn Babyddes selog fel ei mam. Adferwyd Pabyddiaeth eto'n ein gwlad. Llosgwyd tua thri chant o Brotestaniaid mewn ychydig amser, a dihangodd tros wyth gant i'r Cyfandir. Aeth nifer go luosog ohonynt i ddinas Frankfort, a chaniataodd yr awdurdodau iddynt gyfarfod i addoli yn un o eglwysi'r ddinas ar oriau neilltuol. Ar y cyntaf, cytunent i arfer dull syml Genefa yn y gwasanaeth, ond cyn hir cyfododd rhai ohonynt i ddadlau tros fabwysiadu dull y brenin Edward—dull y Llyfr Gweddi. Bu cymaint o gynnwrf rhyngddynt fel y rhwygwyd hwy'n ddwy garfan, ac erys y rhwyg heb ei gyfannu eto. Dyna'r pryd y daeth Schism i Brotestaniaeth Seisnig am y tro cyntaf.