Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar farwolaeth Mary, esgynnedd ei chwaer Elizabeth i'r orsedd. Yr oedd hi'n rhyw lun o Brotestant, a mawrheir ei henw gan laweroedd. "Yr hen amser gynt pan oedd Bess yn teyrnasu," ebe'r bardd, fel pe'n cyfeirio at yr oes euraid. Ond eithaf merch i'w thad, a digon o genawes oedd hi, a chan iddi deyrnasu am bump a deugain o flynyddoedd, sef deugain mlynedd yn hwy na Mary, bu ei llaw'n drymach o ran erledigaeth a charchar er nad o ran ffagodau. Ar ei hesgyniad i'r orsedd, dychwelodd y ffoedigion o'r Cyfandir, ond dychwelsant nid yn un blaid mwyach ond yn ddwy. Cyn hir, adnabyddid y naill blaid fel Diwygwyr y Llys a'r llall fel y Piwritaniaid. Nid oedd eto un gwahaniaeth rhyngddynt o ran athrawiaeth—yr oedd y ddwy'n hollol Galfinaidd. Ysywaeth, nid oedd gwahaniaeth rhyngddynt chwaith yn eu tuedd at unffurfiaeth. Yr oedd y Piwritaniaid mor barod â neb i dderbyn unffurfiaeth, o chaent hwy ddewis y ffurf. Ymdrech fawr a helbulon am ddwy oes a'u dysgodd i barchu rhyddid y gydwybod bersonol. Gorfodwyd hwy i wynebu anawsterau mawr. I ddechrau, pasiwyd Deddf Uchafiaeth y Frenhines, yn eglwysig yn ogystal ag yn wladol. Peth chwerw i ddygymod ag ef oedd hwn. Dynes yn Ben! Beth am ddysgeidiaeth Paul? Yn ail, daeth Deddf Unffurfiaeth yn llawn llymach nag o'r blaen. Wedi hynny, sefydlwyd Llys yr Uchel Gomisiwn i drafod materion eglwysig—llys a oedd i bob pwrpas ymarferol yn annibynnol ar y Senedd ac ar gyfraith y wlad ac a oedd yn meddu awdurdod hollol afresymol ar fywydau ac eiddo'r deiliaid. Yna daeth y Llw ex-officio, fel y'i gelwid, a orfodai ddyn i dystiolaethu yn ei erbyn ei hun. Trefnwyd nifer o gwestiynau yn barod wrth law i ddal y gweinidogion, megis "A ddarfu i chwi rywdro fedyddio heb roddi arwydd y Groes?" neu "briodi heb arfer y fodrwy?" Os do, pa bryd, ac ym mha le?" O wrthod ateb, cosbid hwy am sarhad; o ateb, cosbid hwy ar bwys eu hatebion. Nid rhyfedd i'r Prif Weinidog ysgrifennu at yr Archesgob i ddywedyd bod y fath gwrs yn ei farn ef yn waeth na dim a gyflawnwyd gan y Llys Ymchwil Ysbaenaidd. Ond dyfalbarhau a wnaeth yr Archesgob a'i gynghorwyr. Gallai unrhyw un a dramgwyddodd wrth weinidog anfon cyhuddiad yn ei erbyn i'r Uchel Gomisiwn. Anfonai'r Comisiwn swyddog i wysio'r gweinidog i Lundain, y gweinidog i dalu'r swyddog am ei daith yn ôl hyn a hyn y filltir. Gorfodid ef i adael ei deulu a'i orchwylion a myned i'r brifddinas, yno i ddihoeni mewn carchar ffiaidd i aros ei braw, pryd y condemnid ef ar ei dystiolaeth ei hun. Hynny a fu hanes llawer o'r gweinidogion Piwritanaidd. Y dyddiau hynny, ni châi neb o'r gweinidogion bregethu heb drwydded. Caent ddarllen y gwasanaeth hebddi, a dyna'r cwbl yr oedd angen amdano'n ôl barn y frenhines a'i chynghorwyr. Ond o mynnai gweinidog bregethu yr oedd yn rhaid iddo gael trwydded y llywodraeth. Yn Llyfrgell