Coleg Bangor y mae llyfr yn cynnwys adroddiad swyddogol dirprwywyr Esgob Bangor am gyflwr yr esgobaeth yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Elizabeth. Nid oedd yn yr holl esgobaeth ond dau glerigwr â thrwydded i bregethu'r pryd hwnnw, sef Deon Bangor ac offeiriad Llangurig, Sir Drefaldwyn. Y mae deiseb ar gael eto oddi wrth bobl Cernyw yn taer erfyn am bregethwyr. Er bod yno gant a deugain o glerigwyr, nid oedd yr un ohonynt yn pregethu. Ac eto i gyd, nid unwaith na dwywaith y galwyd yr holl drwyddedau i mewn er mwyn gorfodi pawb i geisio rhai newydd, rhag ofn bod rhai o'r Piwritaniaid wedi'u trwyddedu o ddiffyg gochelgarwch. Oblegid yr oeddynt hwy yn selog dros bregethu. Eto, er bod y wlad yn dyheu am eu gweinidogaeth, rhwystrid hwy ym mhob modd oni chydymffurfient â phob iod a phob tipyn o'r defodau. Ac ni ddihangai'r gwrandawyr yn ddigosb. Gwnaethpwyd cyfraith i gosbi pob un dros un-mlwydd-ar-bymtheg oed oni fynychai eglwys ei blwyf ar y Sul. Y ddirwy i ddechrau oedd swllt y Sul, ond codwyd hi wedi hynny i £20 y mis a charchar oni thelid, yna alltudiaeth gyda bygythiad y rhoddid hwy i farwolaeth pe dychwelent o'u halltudiaeth heb ganiatâd.
Y mae darllen am ddioddefiadau'r Piwritaniaid ar hyd y teyrnasiad hwn yn ddigon i ysu calon dyn. Cynifer ohonynt a fu mewn carcharau! Ac yr oedd carcharau'r dyddiau hynny mor enbyd o aflan a ffiaidd nes magu afiechyd arbennig a elwid yn "haint y carchar" ac a derfynai'n fynych iawn mewn marwolaeth. Gwelais yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth lythyrau oddi wrth garcharorion yng ngharchar Trefaldwyn yn erfyn ar yr awdurdodau fel ffafr eu hanfon i benyd-wasanaeth yn hytrach na'u gadael yn y carchar. Y mae eto ar gael lythyrau oddi wrth Biwritaniaid yn gofyn am gael marw'n gyhoeddus yn rhywle'n yr awyr agored. Ond dihoenodd ugeiniau a channoedd ohonynt i farwolaeth yn y carcharau, ac ni chynhelid trengholiad ar Biwritan.
O'r diwedd dechreuodd rhai o'r Piwritaniaid ymneilltuo. Anghydffurfwyr o fewn yr Eglwys mewn ystyr oeddynt o'r blaen. Yn awr dechreuasant gilio allan ohoni, a galwyd hwy yn Browniaid, oddi wrth enw eu gweinidog, Mr. Brown. Ond anodd iawn oedd iddynt gyfarfod i addoli heb i waedgŵn yr Archesgob ddyfod ar eu gwarthaf. Gan na chaent bregethu, ymroddodd rhai ohonynt i gyhoeddi llyfrau. Ond pasiwyd deddf nad oedd argraffwasg i fod yn unman ond yn Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt nac unrhyw lyfr i'w argraffu heb drwydded arbennig yr Archesgob. Ni chaniateid chwaith i undyn gadw ysgol i ddysgu plant heb drwydded. Ymddangosai'r Llywodraeth yn benderfynol i ddifodi'r Ymneilltuwyr yn llwyr. Eto llwyddodd rhai ohonynt i gael argraffwasg yn ddirgelaidd, a threfnent i'w