Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arfer cerdded o'r ardal honno dros y bwlch i gapel y Bont bob Sul. Ni ddywedodd yr un gair wrthynt, ond aeth ei ffyddlondeb i'w Harglwydd fel brath cleddyf i galon un o'r bechgyn. Y mae'r set honno heb ei gorffen eto, ac enw'r bachgen a glwyfwyd yn adnabyddus fel Ishmael Jones, y pregethwr o Landinam, y bendithiwyd ei weinidogaeth i ddwyn Ann Griffiths i brofi rhyddid yr Efengyl.

2. Fod ymgyflwyniad i Grist yn cryfhau galluoedd yr enaid, fel yr oedd Nasareaeth Samson yn gryfder i'w gorff. "Y gwan, fe'i gyr yn gryfach." "Ni ddichon byd a'i holl deganau, fodloni fy serchiadau 'nawr," medd Ann Griffiths. Fe fuont yn gallu gwneud hynny gynt. Do siwr! Wel, y maent hwy ynddynt eu hunain yr un peth eto! Ydynt, ond yr wyf wedi tyfu llawer er y pryd hwnnw. Wedi i'm Harglwydd ennill fy mryd, ymehanga bob dydd.

Y mae hanes Evan Griffiths o Gegidfa yn debyg iawn i hanes Mary Jones, pe byddai amser i'w adrodd. Cymered y meibion, hefyd, yr hyn a ddywedwyd eisoes at eu hystyriaethau, gan gofio bod angen am Barac yn gystal â Deborah er gorchfygu'r Canaaneaid. Beth am waith yr Ysgol Sul yn yr ardaloedd yma? Cofiaf, pan oeddwn yn llanc imi fod mewn Cyfarfod Ysgolion yn Rhydyfelin, a'r diweddar Barch. Isaac Williams yn siarad â'r athrawon : "Dafydd Morgan," meddai wrth un, Ydech chwi yn dod yma yn o gyson?" Wel, 'rwy'n weddol cyn belled ag y mae hynny yn y cwestiwn," ebe yntau. "'Rwy'n meddwl mai dwy ysgol a gollais i ers dros 40 mlynedd." Cadarnhawyd ei dystiolaeth gan ei gymdogion amser cinio, a dywedent mai afiechyd blin a'i lluddiodd y ddau dro a gollodd. Rhaid oedd fod hwnnw wedi dechrau glynu'n bur ieuanc. Rhai tebyg iddo sydd eisiau heddiw. Beth am gyfrannu hefyd at yr Achos a chyfreidiau'r saint? A yw ein pobl ieuainc yn peidio â gadael y fraint hon yn ormodol i'r rhieni a'r pennau teuluoedd? Yr oedd llanc o Lanllugan gynt yn was yn ardal Pentyrch pan ddaeth hen bregethwr o'r Deheudir heibio ar ei daith. Teimlodd y bachgen yn fawr wrth weld agwedd lesg yr hen ŵr. Defnyddiasai ran o'i gyflog i brynu merlyn ychydig cyn hynny, gan feddwl ei werthu yn y man ac elwa wrth farchnata felly. Ond yn awr, penderfynodd roddi'r merlyn yn anrheg i'r hen bregethwr. Ymliwiai ei feistr ag ef gan ddweud, "Gwell iti adael i mi ei gael, rhoddaf fi ei werth amdano. "Na, meistr," meddai yntau, gwas Iesu Grist sydd i gael y merlyn." Ac felly y bu, aeth Humphrey Edwards yn shareholder yn nheyrnas nef. Bob yn dipyn daeth yn bregethwr ei hunan, a bu'n ffyddlon hyd angau. A phan oedd yntau yn hen ŵr, ac ar daith yn Sir Fôn teimlodd rhai o'r brodyr drosto ac anrhegasant ef â merlyn fel y gwnaethai yntau