â William Harry hanner can mlynedd cyn hynny. Bendigedig yw'r dyn ieuane sydd yn hawdd ganddo roddi a chyfrannu at achos ei Wared wr. "Yn wir, meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr." Gobeithio nad oes yma yr un sydd yn llawn honour yn Ffair Dinas, ond yn dianc heb dalu am eisteddle yn y capel flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Cyfarfod i'r bobl ieuaine yw hwn, ac atynt hwy y mae cyfeiriad ein sylwadau. Ond nid arhosant yn hir yn yr ystad y maent ynddi heddiw. Y mae cyfnewidiadau mawr o'u blaen, a phwysig yw medru mynd trwyddynt heb golli'r ymgysegriad. Enwn rai ohonynt:
1. Priodas: Ni wnaf ond dweud adnod ar hyn. "Na ieuer chwi yn anghymarus gyda'r rhai digred. O anghofio hyn dug rhai o'r ffyddloniaid arnynt eu hunain lawer o ofidiau. Merch grefyddol o Gwmeidrol gerllaw yma a oddefodd i eiddo a safle bydol ei hudo i briodi dyn digrefydd o gwr arall Cyfeiliog. Daliodd afael ar ei chrefydd trwy'r cyfan, ond O! 'r chwerwedd a ddaeth i'w rhan. Byddai raid iddi lechian yn ddirgelaidd trwy gymoedd a choedwigoedd i fynd i'r seiat, a llawer gwaith yr aeth ei gŵr ar ei hôl i godi cynnwrf o gwmpas y capel, a phriodoli pob anweddeidd-dra iddi hi a'i chyfeillion. A oedd ychydig eiddo yn ddigon o dâl am y misoedd o oferedd a'r nosweithiau blinion a osodwyd iddi?
2. Dewis Cartref: Nid manteision bydol yn unig a ddylai benderfynu'r dewisiad. Dylai breintiau crefyddol, neu ynteu gyfle i wasanaethu crefydd lle y mae'n wan, gael llais yn y mater. Pan briododd Thomas Foulkes o'r Bala y tro olaf, teimlai y dylai symud i fyw i rywle rhag bod yn opposition i Mr. Charles mewn busnes. Ond i ba le? Pan oedd ar benderfynu symud i Ruthyn neu Gaer, lle yr oedd perthynasau i'r wraig yn barod i'w croesawu ac agorfa dda am fusnes, digwyddodd rhywun ddweud yn ei glyw, "Gresyn na fuasai rhyw deulu crefyddol, gweddol gefnog yn ymsefydlu ym Machynlleth, y mae'r achos Methodistaidd yno bron â chael ei lethu gan wendid yr aelodau a her gelynion, prin y ceir yno ddrws agored i letya pregethwyr, a chymaint o deithio sydd rhwng Gogledd a De drwy'r dref." Machynlleth amdani ynteu," ebe Thomas Foulkes, ac yno y daeth ac yr erys rhai o'i deulu hyd heddiw, o dan fendith amlwg y Goruchaf. "Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom," ond bu raid iddo ddianc oddi yno heb ei gyfoeth, a thipyn o greithiau ar ei gymeriad yn y fargen.
3. Trin y Byd: Dylai ymgysegriad i Grist ddyfod i mewn i'n helyntion masnachol, er ein cadw rhag ariangarwch,—gwreiddyn pob drwg. Sonnir yn aml am arfer y byd heb ei gamarfer. Y darlleniad diwygiedig yw arfer y byd heb ei lawn arfer—without