Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chamddeall, a rhy drawiadol i'w hanghofio. Dywedai Emrys ap Iwan fod rhoddi ysbryd a bywyd newydd mewn hen bethau cyffredin yn gystal praw o wreiddioldeb â dweud pethau newydd. Deil Mynyddog y praw yna yn lled wych. Bardd synnwyr cyffredin ydoedd, hynny yw, os cyfreithlon ei gyfrif yn fardd o gwbl. Ond gwell i mi beidio â mynd y ffordd yna.

Daeth Mynyddog yn adnabyddus i Gymry pob gwlad, a'r cwestiwn yw, Pa fodd y daeth? Ai yng ngrym y gynhysgaeth naturiol a dderbyniodd, neu ynteu a lafuriodd efe i'w datblygu? A anwyd ef yn freiniol neu a gostiodd ei ragoriaeth rywbeth iddo? Heb gau'r cyntaf allan, credaf mai gwell ar ein lles ni heddiw yw aros gyda'r ail.

Diau i lawer dylanwad anhysbys i ni effeithio arno er gwell neu er gwaeth. Cyn eistedd i lawr dywedaf air am yr hyn y gwn i fwyaf amdano. Nid oedd awyrgylch ffermdy hyd yn oed yn Llanbrynmair yn ffafriol iawn i ddatblygiad chwaeth lenyddol bedwar ugain ac ychwaneg o flynyddoedd yn ôl-dyddiau'r hungry forties' ys dywed y Sais. Daliai'r hen bobl fod gan lanc reitiach gwaith y pryd hwnnw na nyddu cerdd neu naddu englyn. Amcan mawr bywyd ffermwr oedd medru talu ei rent, a disgyblid pob synnwyr i'w gyrraedd. Dyna ddiben eithaf hynny o addysg a roddid i'r plant, ac ni chaent anghofio eu cenhadaeth wrth dyfu i fyny. Dau fath o bobl oedd; rhai llac neu ddidoreth, a rhai cwnin neu wych at fyw. Rhoddai'r dosbarth olaf gwbl-ddiwydrwydd yn eu galwedigaeth, a chodasant gynildeb i fod yn gelf gain.

Fel y gellid disgwyl, adnabu Mynyddog ei gylchfyd yn bur gynnar. Od oes coel ar draddodiad, ei rigwm cyntaf oedd hwn,—

"Mae dada wedi mynd i'r ffair,
I brynu buwch i bori gwair,
I gael rhoi menyn yn y stycie,
I dalu rhent i Jones y Parcie."

Go anfarddonol onid e? Ond dyna'r byd y ganesid y bachgen iddo, ac nid ar unwaith y gallai ymryddhau. Pan ddechreuodd dorri llwybr iddo ei hun, buan y cafodd deimlo bod pwysau yr awdurdod yn ei erbyn. Onid ei brofiad ei hun sydd ganddo yn y "Pwn ar gefn yr awen"?

"Wel, Ifan tyrd i lawr,
'N lle llosgi canwyll, etc"

Disgynnai hyn fel defni parhaus i fwrw diflasdod ar ei egni llenyddol. A'r awgrym eglur yw mai diwerth oedd ei waith—y game ddim yn werth y gannwyll, er y gellir bod yn siwr mai cannwyll frwyn ydoedd. Gwyddai Ifan o'r gorau fod cannwyll wêr i'w chael a chan croeso i dorri gwellt neu ryw orchwyl buddiol