Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

felly, oblegid nid diberygl golau noeth mewn ysgubor, ond gwastraff hyd yn oed ar babwyren oedd ei llosgi i ysgrifennu caneuon, neu ryw ffregod o'r fath. A'r gwaethaf oedd y deuai'r gwrthwynebiad o le rhy gysegredig i'w anwybyddu.

Gwelwn mai morio lawer pryd yn erbyn llanw a gwynt,' a fu helynt Mynyddog ym more ei ddydd. Clywais adrodd y byddai yn croesi cae ddwywaith neu dair heb yr un gwys pan mewn dwys fyfyrdod. Ped arosasai yn ei unman, gwelsid ef oddi draw, galwesid ef i gyfrif, ond tra daliai i symud, ni ellid bod yn sicr nad atebai ddiben ei fodolaeth yn ôl safon uniongrededd.

Na feier gormod chwaith ar yr oes o'r blaen. Yr oedd parch yr hen bobl iddynt eu hunain ac i'w gilydd mor glymedig wrth fedru talu eu ffordd, ac y mae salach safon na honno i'w chael. Dywedodd Evan Jones, Caernarfon,-efe'n gâr agos i Fynyddog—wrthyf â'i dafod ei hun, ddarfod iddo ef gadw ei argraff-wasg am flynyddau ar ôl dechrau pregethu, rhag, os methai gyda'r gorchwyl hwnnw, y byddai'n dda iddo wrthi.

"'Ro'wn i yn benderfynol y mynnwn fod yn annibynnol," meddai, ac unwaith y dechreuir gofyn a derbyn ffafrau, dyna eich annibyniaeth wedi mynd. Felly mi gedwais afael ar fy ngwasg, nes y teimlais y medrwn sefyll ar fy ngwadnau fy hun yn y pulpud, ac yr oedd hynny ddwy flynedd wedi i mi ddod i Foriah." Credaf fod llawer o'r un peth yn yr hen ffermwyr hefyd. Ond rhaid yw cydnabod y medrent yrru'n bur chwyrn, a hawlio dogn helaeth o briddfeini heb fod yn rhy hael ar wellt.

Aeth anawsterau Mynyddog i ebargofiant erbyn heddiw, a'n perygl ni yw eu hanwybyddu, a cheisio cyfrif amdano ef heb y rhwystrau, a heb y dyfalbarhad a'u gorchfygodd. Gwers ei fywyd i lanciau ei hen blwyf yw mai Llaw y diwyd a gyfoethoga,' ac mai" Ym mhob llafur y mae elw." Yn ei eiriau ef ei hun—

I fyny bo'r nod,
Dringwn lethrau serth clod,
Mae wedi'r holl stormydd fyd dedwydd yn dod."

Ac nid hollol anamserol anogaeth arall o'i eiddo—

"Astudiwch, fechgyn annwyl, am rywbeth i'ch llesau,
I helpu cadw noswyl, darperwch lyfr neu ddau,
Gwnewch ddefnydd o'ch meddyliau, tra bo'ch yng ngwres eich gwaed,
Rhowch fwy o waith i'ch pennau, a llai o waith i'ch traed."



(Llanbrynmair, 24 Awst, 1933).