Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynddi. Ffieiddiodd dynion ordinhadau y cysegr yn amser meibion Eli, am anwiredd y rhai a'u gweinyddent. Ffaith dra annymunol yn ein dyddiau ninnau yw y lle a roddir i'r blaenor yn y ddrama Gymreig. Ond yn hytrach na ffromi oblegid hyn, y peth gorau a allwn wneud yw ymroi i "gyflawni y weinidogaeth a dderbyniasom gan yr Arglwydd." Cewch chwi, mae'n debyg, swyddau eraill gan y byd, onid ydych eisoes wedi eu cael; ond ni ddylai hon fod yn is-raddol i'r un ohonynt yn eich golwg. "Gochelwch rhag bod yn flaenoriaid rhwng cromfachau," chwedl Daniel Owen. Na wthiwch y swydd i back-ground eich bywyd, i gofio amdani yn unig pan na fydd dim arall yn digwydd galw am eich sylw. Darllenwch lyfr Malachi yn bwyllog ac ystyriol. Gwelwch yno fod yr Arglwydd yn dra eiddigeddus dros anrhydedd ei dŷ, ac nad cymeradwy ganddo Ef bob math o wasanaeth. Offrymu y dall a'r cloff, dwyn pethau i'r cysegr na wiw eu dangos yn y farchnad: canlyniad ymddygiad fel yna yw,

Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch, ac ni dderbyniaf offrwm o'ch llaw." Ofer, a gwaeth nag ofer, a fyddai cynnig eich gwehilion iddo Ef, bod yn swrth-fusgrell fel blaenoriaid, ond yn fywiog ac effro yn eich ymwneud â'r byd. Dywedai Ebeneser Morris y buasai ef heb y syniad a feddai am ogoniant gweinidogaeth yr Efengyl, pe heb adnabod Robert Roberts o Glynnog. Drwy ddifrifol ymroddiad, dyrchafodd Roberts y pulpud, ym marn y dynion gorau, ac nid oes yr un ffordd arall i godi'r sêt fawr, a'i chadw i fyny. Er mwyn urddas eich swydd, byddwch o ddifrif.

2. Wrth fod o ddifrif y gwna pob un ohonoch chwarae teg ag ef ei hun. Dichon i chwi feddwl yn waelach ohonoch eich hunain yn ddiweddar nag y gwnaethoch erioed o'r blaen. Gwelsoch eich hunain, efallai, mor annigonol ar gyfer y swydd newydd a ddaeth i'ch rhan, nes petruso pa un a ymaflech ynddi ai peidio. Ni ddymunwn lwyr ddileu y fath deimlad o'ch mynwesau, pe medrwn. Ond os ofnasoch fod eich holl egnïon gyda'i gilydd yn rhy fyr at y gwaith, beth fydd rhan ohonynt iddo? Ar y llaw arall, cofiwch fod dyn bychan, o'i gael i gyd, yn werth llawer mwy i gymdeithas na dyn mawr difater. Darllenwch y bumed bennod o lyfr y Barnwyr. Clywais Joseph Thomas yn dweud y cynhwysai Cân Deborah ddarlun o hanes yr eglwys trwy'r oesau. Y gelynion yn gryfion a lluosog, a dim ond rhyw ddyrnaid o bobl druain dlodion i'w hwynebu. Y llwythau mawr dylanwadol ddim yno. Y mae Sabulon a Naphtali yno. Ydynt, ond pwy erioed a glywodd amdanynt hwy yn arwain gyda dim? Gwell gohirio ac encilioond arhoswch! Dacw'r bobl ddistadl yn disgyn ar eu traed i'r dyffryn i gwrdd y gelyn! Eithaf gwarant nad ydynt yn meddwl dianc oblegid pwy a allai ddiane ar ei draed ar wastadedd, a naw can cerbyd haearn i'w ymlid? Diane, nage. "Pobl Sabulon