Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a roddes eu heinioes i farw "; ac wedi eu cael i'r cywair yna, dechreuodd adgyfnerthion y Nefoedd ymddangos, a rhyfedd y galanas a wnaed ar y gelyn cyn nos. Tra'r oedd y bobl fawr yn ysgafala, cafodd y bobl fach sathru cadernid dan draed. Drwy ddifrawder, aeth y rhai blaenaf yn olaf, a thrwy ddifrifwch aeth yr olaf yn flaenaf. Pe byddai eich dechreuad chwithau yn fychan, os gwnewch eich gorau, eich diwedd a gynydda yn ddirfawr. Ni sylweddolir eich posibilrwydd mewn ffordd arall; ni ddeuwch byth i'ch maint fel blaenoriaid wrth arfer rhyw hanner-mesurau. Er mwyn eich twf a'ch cynnydd eich hunain, byddwch o ddifrif.

3. Wrth fod o ddifrif y gwnewch chwarae teg â'ch brodyr. Nid units annibynnol ydych i fod, ond aelodau mewn corff. Darllennwch y ddeuddegfed bennod o'r Epistol Cyntaf at y Corinthiaid. Gorchest i ymgyrraedd ati yw dysgu cydweled, a chyd-oddef, a chyd-weithredu. Nid fel pendefigion Judah yn gohebu â Thobah er mwyn hunan-fawrhad, neu ddiogelwch; nid fel Meros yn aros yn amhleidiol ddiwrnod argyfwng mawr eu cyd-genedl; ac yn arbennig, nid fel Achan yn cellwair â'r diofrydbeth nes dwyn yr holl wersyll i waradwydd a cholled. Ond yn debycach i Paul, â'i gydymdeimlad yn llosgi pan fyddai arall yn wan. "I'r meirch yng ngherbydau Pharao y'th gyffelybais, fy anwylyd." Os bydd tresi un march yn llac, bydd gormod o bwysau yn rhywle arall. Rhaid meithrin y team-spirit y sonnir cymaint amdano'r dyddiau hyn, a dynion difrif sydd debycaf o wneud. Er mwyn eich brodyr a'ch cyfeillion y dywedaf yn awr, byddwch o ddifrif.

4. Wrth fod o ddifrif y gwnewch chwarae teg â'r eglwysi hefyd. Rhoddasant hwy eu gorau i chwi wrth eich dewis i'r swydd hon, ac ai mawr yw iddynt gael eich gorau chwithau yn ôl? Oblegid nid i segur-swydd y'ch galwyd. Meddyliwch am ei thraddodiadau yn eich cymdogaethau. Yr ydych yn perthyn i dair o'r eglwysi hynaf a pharchedicaf a feddwn :-Llanidloes, cartref John Lewis y watch-maker, a llu o wŷr grymus ar ei ôl; Llanbrynmair, eglwys Richard Howell, Hugh Dafydd, a William Williams; a Mallwyd, maes llafur Owen Sion ac Edward Morris. Drwy ymdrech ddyfal a chyson gwnaeth y gwŷr hyn Fethodistiaeth yn allu amlwg er daioni yn eu hardaloedd; ac yn awr, ar alwad yr eglwysi, yr ydych chwi yn myned i mewn i'w llafur. Fy mrodyr annwyl, nid cellwair o beth yw bod yn olynwyr i ddynion fel yna. Ehangodd hen frenhinoedd Judah derfynau eu gwlad, ond pan ddaeth Jehoram i'r orsedd, dechreuwyd colli'r taleithiau. Dyn gwael oedd ef, a diwedd ei hanes yw, "efe a ymadawodd heb hiraeth amdano, a chladdasant ef yn ninas Dafydd, ond nid ym meddrod y brenhinoedd." Teimlai'r wlad megis yn reddfol nad oedd y dyn a gollodd y taleithiau yn deilwng i orwedd yn yr un bedd â'r dynion a oedd wedi eu hennill. Cofiwch chwithau nad rhwng