Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cwsg ac effro y gellir llanw lle hen flaenoriaid Trefaldwyn Uchaf; a chofiwch hefyd mai diflas i'r eglwysi fyddai gorfod ymfodloni ar darianau pres yn lle'r tarianau aur a feddent gynt. Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, byddwch o ddifrif.

5. Oni byddwch o ddifrif, fe wnewch gam â gras Duw. Dug Efe gyfle i fod yn ddefnyddiol at eich drysau. Nid rhaid esgyn i'r nef na disgyn i'r dyfnder; y mae'r siawns yn agos atoch. Pe buasai yr amod fel hyn, "Rhaid i ddiaconiaid fod yn ddysgedig," dyna chwi a minnau ar y clwt mewn amrantiad. Neu fel hyn, Rhaid iddynt fod yn ddoniol," â chroen eu dannedd yr aethai neb ohonom ni i mewn. Ond gosododd y Nefoedd y premium ar ddifrifwch, ar ymroddiad a chwbl-ddiwydrwydd,—pethau sydd mewn ystyr o fewn eich cyrraedd, a phethau a arferir gennych bob dydd mewn cysylltiadau eraill. Rhoddwyd ger eich bron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau ond chwi eich hunain. Edrychwch yn ddyfal rhag derbyn ohonoch ras Duw yn yr ystyr hon, yn ofer. Nid oes dristach brawddegau yn yr holl Feibl na geiriau Iesu Grist am was annheilwng.

Daw arglwydd y gwas hwnnw ac a'i gwahana ef, ac a esyd ei ran gyda'r anffyddloniaid." Eich derbyn i mewn a wneir yma heddiw. Cadwer chwi i ymroi felly i'ch dyletswyddau, fel na ddelo awdurdod uwch yn dragywydd i'ch bwrw allan.

Anodd tewi heb gyffwrdd ag un ystyriaeth arall. Hwyrach y dywedwch fy mod yn siarad fel pe bai popeth yn dibynnu arnoch chwi. Hwyrach yr ymofynnwch ynoch eich hunain "A chaniatau bod ein llwyddiant yn gorffwys ar ein difrifwch, ar ba beth y gorffwys y difrifwch? A allwn ni drwy nerth penderfyniad ei gynhyrchu ynom ein hunain heb help neb?" Na fedrwch, fy mrodyr, yn hollol. Gellwch gynhyrchu peth tebyg iddo: ond tuedd hwnnw yw rhedeg yn wyllt a datblygu yn sêl ddallbleidiol neu ffanaticiaeth gul galed gas, beryglus i chwi eich hunain a phawb a ddaw yn agos atoch. Nid y cyfryw a gymhellir arnoch yn awr.

Yr oedd Saul o Tarsus, yn rhan gyntaf ei oes, yn ddigon difrifol i gymryd llawer o'r cyfrifoldeb am labyddiad Steffan a'r holl gyfrifoldeb am lanw'r gwledydd â bygythion a chelanedd. O'i ddaear ef ei hun y tyfai y cnwd hwn. Minnau hefyd a dybiais ynof fy hun fod yn rhaid imi wenuthur" fel a'r fel. Ond un diwrnod, ar ffordd Damascus, cwrddodd Saul â Rhywun, a newidiodd ansawdd a naws ei ddifrifwch am byth. Nid oedd eisiau lladd neb mwyach. Daeth yn fwy angerddol ddifrifol nag erioed, ond ymadawai y chwerwder a'r surni yn llwyr, ac yn eu lle teyrnasai cydymdeimlad a charedigrwydd. Yn lle fflangellu pobl eraill, âi o dan wialenodiau dros fesur ei hunan. Yn lle carcharu eraill, ceir ef ei hun mewn carcharau yn fynych,—mor fynych nes ein temtio i feddwl mai yno y dysgodd ganu, o