Tudalen:Cyfrol Goffa Richard Bennett.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth fy modd i,' meddai, ac am hynny rhaid i synnwyr ildio. Onid yw llwybrau ei orchmynion' wrth ein bodd ninnau, ni bydd gwirionedd Duw ond ail beth gennym. (b) Yn gryfach na phob cyrhaeddiadau deallol. Y mae mae cariad yn debyg i'r bias yn y bêl (bowls). Yr oedd Balaam yn gwybod llawer. gŵr yr agorwyd ei lygaid' yn bowlio at farc go lew—'marw o farwolaeth yr uniawn.' Ond tynnodd cariad at wobr anghyfiawnder' ef i ŵyro. Bu farw ymhlith y gelynion—ymhell oddi wrth y marc. (c) Yn bwysicach nag arferion da ac ymarweddiad dichlynaidd. Yr oedd y gŵr ieuanc y dywedir amdano yn yr Efengyl, wedi cadw'r gorchmynion oll o'i febyd, yn bowlio at y marc uchaf posibl etifeddu bywyd tragwyddol.' Ond ymddiried mewn golud' yn ei dynnu ar ŵyr bron ar ei waethaf." Efe a aeth ymaith yn athrist'. Paham yn athrist? Am ei fod yn rhyw ymwybodol ei fod yn gwneud camgymeriad—ond myned er hynny. Sonnir am ddynion â'u serch arnynt eu hunain... er dysgu bob amser ni ddeuant byth i wybodaeth o'r gwirionedd. Pa le a roddwn i'r gwirionedd yn ein bywyd? Y mae Duw am iddo gael y lle gorau y cysegr sancteiddiolaf, y galon. A feiddiwn ni ei gadw yn y cyntedd allanol?

(ii) Oni bydd y gwirionedd yn allu llywodraethol ynom, ni bydd yn allu amddiffynnol inni chwaith.

Ped ymryddhai'r trefedigaethau oddi tan lywodraeth Prydain, ni chaent ei hamddiffyniad mwy. Y sawl a'm carant i, a garaf innau. Fy anrhydeddwyr a anrhydeddaf,' Tarian yw efe '-i bwy? I bawb a ymddiriedant ynddo. Y mae'r gwirionedd yn amddiffyn pob un a gymer ei arwain ganddo. Ac angel Duw, yr hwn oedd yn myned o flaen byddin Israel, a symudodd, ac a aeth o'u hôl hwynt ... Ac efe a ddaeth rhwng llu yr Eifftiaid a llu Israel; ac yr ydoedd yn gwmwl ac yn dywyllwch i'r Eifftiaid, ac yn goleuo y nos i Israel: ac ni nesaodd y naill at y llall ar hyd y nos. Dyma beth mawr! Gwirionedd Duw yn goleuo i ni.

Dyna brofiad y Salmydd yn ei gystudd, "Oni bai fod dy ddeddf yn hyfrydwch i mi, darfuasai yna am danaf." Morris Evans ar lawr; ond yn fwy na choncwerwr ymhen yr wythnos. Beth wnaeth y gwahaniaeth? Darn o adnod o lyfr yr Actau. Ond, cofiwn mai â'i ffrindiau y gwna'r gwirionedd fel hyn. "Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef." Dim byd i Saul, dim byd i Jehoram mewn cyfyngder. "Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? Dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam."

"Derbyn cariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig"—ar hyd y daith. Bydd adnodau yn dilyn y Cristion, fel life-guards, i'w amddiffyn, ac yn ernes o fuddugoliaeth lwyr yn y man.