yn unman. Tua'r hwyr, daeth yr hogyn o'r caeau, a dywedodd weled y ci yn ymyl rhyw hen bwll mwyn ar y tir. Ac yno wedi boddi yn y pwll y cafwyd yr hen gi druan. Nid wyf yn amau dim nad oedd wedi deall."
Tua chanol y ffordd i fyny i allt Fethel, safasom i gymryd ein gwynt. Dyma Alafon yn dechrau gwneud rhyw sŵn bach main drwy dynnu ei anadl rhwng ei wefusau. Yr oedd robin goch ar y wal yn ein hymyl. Fel y gwnai Alafon y sŵn, neidiai robin yn nes atom. Daeth i lawr ar y ffordd ac yna yn nes nes, hyd onid oedd wrth droed Alafon, fel pe buasai'n hen gyfarwydd ag ef. Yno y bu yn edrych i fyny ato, hyd nes i mi yn ddifeddwl symud fy nhroed. Yna, ehedodd i ben y wal drachefn. Pe buasem yng Nghlwt-y-bont, buaswn yn deall y peth, ond yr oeddym yn rhy bell o gyrraedd cydnabod personol Alafon yn y fan honno. Gofynnais iddo sut y gallai ef wneuthur peth felly. "Wn i ddim," meddai tan wenu, "ond maent yn greaduriaid bach dofion iawn, ac yn cyfeillachu â dyn yn rhwydd."
Adroddodd i mi wedyn ei hanes ef ei hun yn croesi'r mynydd ac yn dyfod ar draws rhyw lannerch fach werdd, lle'r oedd ffrwd fechan yn