Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymwasgar ar hyd y tir, a blodau gwylltion yn tyfu yno, ac ederyn bach unig yno'n canu a'i holl egni, o lawr i frigyn ac o frigyn i lawr. Y llannerch honno oedd "Gwerddon y Ffridd," gweler Cathlau Bore a Nawn, td. 36. O, ydyw, y mae yntau bellach wedi dyfod o hyd i

"ryw lannerch fel hon,
O dlysni parhaus a dedwyddwch llon,
Heb gof am ofidus glwyf!"

—os nad cof ganddo, hyd yn oed yno, fod ambell hen gyfaill eto mewn dygn ymdrech am einioes hynny o ffydd a adwyd iddo yn y byd sydd o honi!

Fis Awst, 1915, bwriais ddeuddydd a noswaith yn Llwyn Iorwg. Cyrhaeddais yn ddi-rybudd, fel arfer, ond nid oedd hynny ond mwy fyth o groeso, ped fai bosibl. Prudd oedd gweled dadfeiliad y corff gwisgi, golygus, a rhyw ymostyngiad trist ond mwyn yn y drem. Braint oedd cael mynd allan gyda'r offeiriad—arferaf y gair o fwriad—ar ei hynt i edrych am ei blwyfolion, a'i helpu dros gamfeydd y gwelais ef yn eu neidio gynt. Yr oedd yr wybren y diwrnod hwnnw yn llawn cymylau gwynion disglair o bob llun. Cytunasem ein dau fod cysgod uffern ar y byd, ond wrth edrych ar y cymylau, y mae'n ddiau gennyf ei fod