Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyny ac i lawr. Ceid ganddo yr un peth yn ei feirniadaethau eisteddfodol, lle y cadwai gynulleidfa gymysg o filoedd o bobl i wrando arno fel y gwrandewir ar feistr. Yn wir, daeth gwrando arno'n traddodi beirniadaeth yn un o'r pethau mwyaf deniadol yn eisteddfodau ei gyfnod,—un o'r profion sicraf hefyd o lwyr effeithioldeb Cymraeg glân a graenus hyd heddiw ym mhob rhan o Gymru.

Er maint ei ofal am arddull lenyddol, llefarai dafodiaith yr ardal lle ganed ef bron yn ddiofal. Enwai rai o'r misoedd o leiaf yn Saesneg; dywedai rifedi tudalen neu flwyddyn, a phethau felly, yn gyson yn Saesneg, a Saesneg fyddai llawer o'i eiriau moes wrth y bwrdd (megis "plis," "tanciw," etc.). Synnwn bob amser at y gwahan iaeth hwn rhwng ei iaith lyfr a'i iaith lafar, ond ni ellais erioed fod yn ddigon hy i alw ei sylw at y peth. Ceid ganddo hefyd, y mae'n wir, lawer o hen eiriau diddorol iawn, a arferai y mae'n ddiau fel rhai a glywsai beunydd yn ei ieuenctid, ond ni chefais le i gredu fod i dafodiaith fel y cyfryw ddiddordeb mawr iddo.

Pan ai'n ymddiddan personol rhwng dau, teimlwn bob amser ei fod ef ar ei orau, er ei fod