Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hefyd mewn cwmni helaeth yn adroddwr ystraeon ardderchog. Anodd yma beidio â chynnwys yr olaf a glywais ganddo, ychydig cyn ei farw. Yr oedd rhywun yn holi'r Ysgol Sul, ac yntau'n un o'r plant. Soniwyd am Lyn Genesareth, a gofynnodd yr holwr:

"A oes sôn am ryw lyn arall yn y Beibl?"

Distawrwydd am ennyd; yna clywid llais y bachgen dylaf oedd yno yn ateb:

"Oes."

"Wel?" meddai'r holwr.

"Llyn Pysgod Angau," meddai'r atebwr.

Credaf nad anghofia neb ohonom oedd yno byth mo groywder y modd y llefarodd Syr John yr ateb hwnnw i ni.

Mewn ymddiddan mwy personol, y peth a'm tarawodd i lawer gwaith oedd fod ynddo ryw fath o wyleidd-dra ac o ddiniweidrwydd anghyffredin. Credaf na byddai byth yn rhyw hapus iawn yng nghwmpeini dieithriaid—byddai rhyw sychter cwta undonog yn ei lais, ac edrychai'n anesmwyth. Yr wyf yn berffaith sicr iddo lawer gwaith dynnu ymosod ffyrnig arno ef ei hun drwy beth a ddywedodd yn gwbl ddiniwed. Odid well chwarddwr nag ef. Eto ni roed iddo'r