Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddim mor ddihoced â'i syndod pan amheuid rhai o'i osodiadau. Am bethau eraill a ddywedai yn ei ddadleuon, fel y soniais eisoes, ni allai ef ddim chwerthin mewn print, ac am hynny cymerid o ddifrif lawer peth nad oedd o ran bwriad nemor mwy na digrif. Er na bûm i fyfyriwr dosbarth iddo, braint i minnau ddywedyd gydag eraill, "Disgybl wyf, ef a'm dysgawdd."

1929, 1930.