Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedyn, ond parhaodd y cyfeillgarwch heb na phallu na phylu hyd oni ddaeth ei yrfa ef i ben, fis Awst, 1928. Ac ni allaf eto gredu ddarfod am y cyfeillgarwch hwnnw.

Gŵr tawel, bonheddig, gwylaidd, rhy wylaidd, oedd Richard Ellis. Oni bai ei wyleiddied, nid aethai drwy'r byd heb fod ond ychydig a wyddai am ei ddiddordeb eang a'i wybodaeth helaeth am bob math o bobl a phethau mewn meysydd diarffordd. Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg, hanes Cymru ac ysgolheigion Cymreig, hanes Rhydychen a godidowgrwydd pethau coll yn byw byth yn ei hawyr; hanes ac achau teuluoedd, eu ffyniad a'i orffeniad; hanes y Sipsiwn Cymreig, llên gwerin, arferion a defodau,—aeth ffrwyth sylw ac ymchwil oes lafurus i'w ganlyn i'r distawrwydd mawr, ac nid oes yn aros onid ychydig gyfeillion a ŵyr hynny. Eto, yr wyf yn sicr na fynasai ef ei hun ar un cyfrif iddi fod yn amgen. Casbeth oedd ganddo dynnu sylw ato'i hun mewn modd yn y byd—trafferth fawr a fyddai gael ganddo wneuthur unpeth ar goedd, a digrif fyddai ganddo ruthr y chwilod dangos i ganol ffrwd y goleuni ym mân chwaraeon bywyd.