Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"A wyddoch chwi," meddwn wrtho, "am deulu o Wyniaid o Sir Ddinbych—yr oedd un ohonynt yn ysgolhaig, rywbryd yn y ddeunawfed ganrif, neu gynt?"

Garthewin?" meddai yntau, "O ie, gwn."

Yna, ymlaen ag ef gyda hanes y teulu, eu hachau a'u cysylltiadau a phob rhyw gamp arnynt. Yr un modd am ddwsin o deuluoedd o'r un sir, boed yn eu hanes ai rhamant ai trychineb, neu fagu ohonynt ysgolhaig, ni waeth ym mha faes, neu gymeriad ag arno un arbenigrwydd arall. Ac felly am bob sir yng Nghymru.

Ysgrifennodd ugeiniau o lythyrau yn ateb i eraill a fyddai ar ôl hanes rhywun neu gilydd ac a ddeuai i wybod yn y naill ffordd neu'r llall am ei wybodaeth a'i gymwynasgarwch ef. Olrheiniodd hanes ymweliadau Shelley â Chymru ac Iwerddon, a darganfu ffeithiau anhysbys am y bardd a'i gyfeillion. Tua diwedd ei oes, datblygodd ddiddordeb arbennig yn arweinwyr cynnar y Methodistiaid Calfinaidd, a chasglodd ddigon o ffeithiau i sgrifennu penodau diddorol o'u hanes. Ar y llaw arall, casglodd lawer o wybodaeth ddiddorol am ymdrechion olaf Catholigaeth Gymreig ac araf ddiflaniad yr hen ffydd.