Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edmygai Luyd tros fesur, ac ni flinai byth ar sôn amdano, ei ddysg helaeth a manwl, ei weithgarwch diorffwys, ei gymeriad urddasol a'i foneddigeiddrwydd Cymreig perffaith. Soniai amdano fel pe buasai'n ei adnabod erioed, fel pe byddai ddisgybl yn sôn am ei athro. Diau gennyf fod Lhuyd megis yn byw iddo ef yn y geiriau a sgrifennodd ei law ar bapur. Byddai'n llawenydd ganddo hyd yn oed ddyfod o hyd i lythrennau cyntaf ei enw ar lyfr, neu un o'i farciau yma ac acw yn dangos pa beth a ddarllenasai. Ni allai oddef meddwl am ddinistrio na llythyr na nodiad o waith undyn—clywais ef yn dywedyd bod hynny iddo ef megis pe byddid o wirfodd yn dinistrio personoliaeth dyn. Wrth fynych wrando ar fanylion yr hanes ganddo ef, aeth Lhuyd yn fyw i minnau. Ac mor debyg oedd ef i Richard Ellis!

Ond nid Lhuyd yn unig, hyd yn oed er mai ef yn bennaf, ac nid Cymry yn unig, er mai pennaf hwythau. Odid ysgolhaig o ryw nod a fu yn Rhydychen na wyddai ef ei hanes—ni allai beidio â chodi pob cyfeiriad at hanes a llafur pob gwŷr enwog o bob cenedl a fu yno.