Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

maint ei ddiddordeb mewn personau ac yn y deall a'r bwriad, nid amau gennyf nad oedd ei ddiddor deb yn y reddf sydd wrth wraidd personoliaeth effro yn llawn cymaint; fel rhyw grynhodeb of ddynoliaeth yr oedd dyn yn ddiddorol iddo. Mesurai a phwysai ddynion yn fuan iawn, ac ni welais erioed mono'n methu yn ei ddadansoddiad, hyd yn oed er i mi fy hun synio'n wahanol iddo ar y dechrau.

Bûm trwy ei bapurau oll ar ôl ei farwolaeth. Ysgrifennodd lawer iawn, yn enwedig yn ei ieuenctid, ond ychydig a gyhoeddodd. Yr oedd y duedd i'w feirniadu ei hun a diwygio'i waith ynddo'n gynnar. Cefais hyd i ffurfiau lawer ar ambell delyneg neu soned o'i eiddo, ond prin yr wyf yn meddwl bod un ohonynt wedi cyrraedd ffurf y buasai ef ei hun yn ei hystyried yn derfynol. Gadawodd hefyd ar ei ôl lawer o chwedlau neu straeon byrion, ac o leiaf astudiaeth neu ddwy a fwriadwyd ar gyfer ystraeon hir neu nofelau, mi dybiaf, yn gystal â nifer o frasluniau neu astudiaethau o gymeriadau ac amgylchiadau cymhleth, ac amryw ddychanau miniog. Ond ni adawodd un o'r pethau hyn mewn ffurf orffenedig, er bod digonedd o ôl newid a diwygio arnynt, ac o