Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwilio parhaus am ragorach mynegiad. Ryw flwyddyn neu ddwy cyn ei farwolaeth, dangosodd i mi gyfres o sonedau y ceisiais yn daer ganddo eu cyhoeddi. Hanner addawodd wneuthur hynny, ond nis gwnaeth ac ni chefais hyd iddynt hwy ymhlith ei bapurau, ac nid oes gennyf un syniad pa beth a ddaeth ohonynt.

Yr oedd rhyw agosatrwydd ac elfen bersonol gref yn ei holl brydyddiaeth, a chredaf mai i bersonau byw yr ysgrifennodd lawer o'i gathlau. Yr oedd gan y llais, y llygaid, y dwylo a'r gwallt yn enwedig atyniad arbennig iddo, ac ni byddai byth heb fod yn chwith ganddo am bethau a fu ac a ddarfu, ac eto a wrthodai ddarfod. Gellid meddwl bod ambell bennill o'i eiddo, neu gân fach nis gorffennwyd, yn llun cywir, agos fel ffotograff, a rhai o'r profiadau a ddisgrifiodd yn rhai na fynnid ac eto na ellid peidio â'u corffori mewn geiriau. Ffigur mynych yn y cathlau anorffenedig hyn ganddo oedd angau, a chredaf fod yr amgyffred amdano yn datblygu ac yn tirioni ynghwrs y blynyddoedd. Yn un o'r ceisiau diwethaf, a barnu wrth ddatblygiad yr ysgrifen, "the dark lady" y gelwid angau, a thosturi trist oedd yn ei hwyneb hi pan ddatguddid ef yn yr awr