Dyellais yn fuan nad methu a wneuthum wrth fwrw mai gŵr pendant a phenderfynol ydoedd. Nid oedd dim a'i trôi oddi wrth ei fwriad, ond gwybûm o gam i gam mai mwynder bonheddig oedd gwaelod ei natur. Anghytunem o ran syniadau ambell dro, ond ni welais mo hynny'n mennu dim ar ei garedigrwydd a'i gyfeillgarwch, na hyd yn oed yn crychu dim ar ei gwrteisi arferol. Yr oedd mewn gwirionedd ryw elfen wylaidd yn ei natur, er tybio o lawer un bod rhywbeth yn chwyrn ynddo. Y tebycaf a adnabûm. iddo yn hynny o beth oedd Emrys ap Iwan, a gyfaddefai orfod ymladd â'i wyleidd-dra yn ei ieuenctid, ac a roes yr un argraff mai tuedd chwern oedd ynddo yn ddiweddarach. Ond mewn cwmni cymysg pan ddeffroid rhagfarnau, codai Daniel Rees ei olwg i fyny, crynai ei ffroen, tynhâi ei wefusau. Ac ni bu dim mwy tawel ac urddasol na'i leferydd a'i ymgrymiad pan dorrai ar ei ddistawrwydd ar ôl ambell ddigwyd. Mynych y dywedodd wrthyf mai peth gwerth ei wneuthur oedd dysgu goddef ffyliaid yn llawen.
Prin y gallwn adrodd hanes ei berthynas ef a minnau yn llawn heb ddywedyd pethau na ddaeth yr amser i'w dywedyd eto. Dangosai uniondeb a