Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chadernid. Er bod ganddo syniadau digon pendant ar ofynion a thelerau'r apêl at y lliaws, megis y ceir er enghraifft ym myd y papurau newyddion, nid ildiai ddim i'r apêl honno, a byddai gan amlaf ar yr ochr amhoblogaidd. Nid anghofiaf mono'n wynebu cynulleidfa fawr yng Nghaernarfon i dystio yn erbyn y rhai a ddaethai yno i chwythu'r tân rhyfel yn erbyn y Boeriaid. Aeth i fyny ar y llwyfan a dechreuodd siarad yn dawel. Yr oeddwn i yn y gynulleidfa, ac yn gweled yr elfennau a ddechreuodd anesmwytho, rhai a fyddai'n gyffredin yn flaenllaw dros heddwch ac yn erbyn milwriaeth. Yn araf y cynyddodd y curo traed, a ddechreuwyd yn ysgafn ond yn gyson. Yna ymledodd ymysg elfennau eraill, a thawelodd y rhai a'i cychwynnodd. Yr oeddynt hwy wedi gwneud eu rhan yn llwyddiannus. Undodwr y cyfrifid Daniel Rees. Wynebodd y gynulleidfa yn dawel am ennyd, yna ymgrymodd a daeth i awr. Pan gydymdeimlais ag ef ar y diwedd, bu ennyd yn ddistaw a'i wyneb yn wyn, yna cododd ei ysgwyddau a murmurodd, "lascia dir le genti!" ("gad i'r taeogion gega!")[1]

  1. Dante, Purgatorio, canto v, 13.