ER geni Syr Edward Anwyl yn Lloegr—yn ninas Caerlleon, yn 1866—ac er ei addysgu yn Ysgol Harri'r Wythfed yn y ddinas honno, ac yn Rhydychen, Cymro oedd Syr Edward hyd y gwraidd.
Fel myfyriwr, bu ei yrfa yn ddisglair. Er pan benodwyd ef yn Athro'r Ieithoedd Celtig yn Aberystwyth yn 1892, ac wedi hynny yn Athro Ieitheg Gymhariaethol, dangosodd mai nid ysgolhaig yn unig ydoedd, canys llanwodd lawer o swyddi cyhoeddus â mawr glod iddo'i hun, a gwnaed ef yn farchog fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth i ddysg ei wlad. Brithir cyhoeddiadau'r Cambrian Archaeological Association ag ysgrifau o'i waith ar bob math o bynciau, ac ysgrifennodd yn ddiamau gannoedd o erthyglau i gylchgronau Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Ymhlith ei lyfrau gellir nodi Gramadeg Cymraeg yng nghyfres unffurf Sonnenschein, a llyfr ym arfer yn yr un gyfres; llyfr Saesneg ar Grefydd yr hen Geltiaid; Rhagymadrodd a Gramadeg i Farddoniaeth y Gogynfeirdd; Esboniad Cymraeg ar Lyfr Hosea; Cyfieithiad o'r Gododdin, heb