Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sôn am ei ysgrifau ar y Mabinogion yn Y Gwyddoniadur a'r Zeitschrift für celtische philologie, a'i erthyglau ar amrywiol bynciau yn Hastings' Encyclopaedia of Religion and Ethics.

Fel dyn, anfynych y ceid ei debyg. Tawel a mwyn, bonheddig a chadarn, nid oedd amgylchiad na wyddai Edward Anwyl sut i ddyfod trwyddo yn yr un ffordd briodol ac urddasol. Yr oedd ei wybodaeth yn eang, ni waeth ym mha gylch, a'i gof ysblennydd bob amser yn ei wasanaethu yn ddiffael; Groeg a Lladin ar flaenau ei fysedd—prydyddai Ladin difai ei glasuroldeb; sicr a phwyllog yn nyrys bethau ieitheg gymhariaethol; ar flaen ei oes ym mhob dysg Geltig; meistr ar hanes hynafiaeth; Hebraeg at ei alwad pan fynnai; diwinyddiaeth, a gwyddor newydd crefydd gymhariaethol yn hysbys iddo—synnai pawb a'i hadwaenai, ymhlith gwŷr cyfarwydd y gwybodau, at ei wybod a'i fedr. A'i symledd dirodres tros ben y cwbl. Soniech am a fynnech, caech wybod a synnwyr a doethineb gan Edward Anwyl. Bu fyw mor syml a gweithiodd mor galed. Rhyw ddeg ar hugain neu ragor o ddarlithiau mewn wythnos, a phob un o'r rhai hynny wedi ei gorffen yn drwyadl. O'i ystafell yn y Coleg