Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"A oeddych chwi drwy ryw siawns yn Llun dain ddydd Mawrth diweddaf? Pan ddeuthum allan o'r swyddfa i'r ystryd, ddeuddeg o'r gloch, fe'ch gwelwn, mi gymerwn fy llw, ar yr ochr arall i'r heol. Croesais cyn gynted ag y gallwn drwy ganol cryn drafnidiaeth, ond ofer fu'r ymchwil amdanoch."

Yr un dydd a'r un awr y tybiwn innau ei weled yntau yng Nghaernarfon.

Efallai mai noswaith brysur fyddai yn ein llafur y dyddiau hynny, deg o'r gloch, hwyrach, a darllen a chywiro "copi" ar dro. Agorai drws f'ystafell yn ddistaw, dôi yntau i mewn yn araf. Darn o bapur neu lyfr yn ei law, gwên ar ei wyneb. Tynnai ei law dros ei dalcen helaeth a thrwy ei wallt nes bod hwnnw'n cyrlio ar ei gorun. Efallai mai epigram Lladin fyddai ganddo, neu linell o eiddo Dante. . . . Mi awn yn ôl i'r bywyd hwnnw a'i drafferthion eto, pedfai siawns ei ddyfod yntau hefyd yno, a dyfod y dyddiau hynny'n ôl. Ni ddont . . .