Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr wythnos y torrodd y Rhyfel Mawr allan ydoedd, a theimlwn fel pe buaswn yn mynd ar bererindod i chwilio am weddillion Cristnogaeth. Odid na chawn orffwys yn yr ardal honno a'i chorsydd, ei rhosydd a'i chilfechydd tawel, lle byddai dyn fel pe bai wedi gado'r byd ac na byddai arno byth mwy eisiau troi'n ôl. Ond methais. Yr oedd y cysgod yno o'm blaen i. Holai pawb a gyfarfyddwn am y newydd diweddaraf. Daeth y post â llythyr oddi wrth gyfaill o Lydawiad oedd ar gychwyn yn llawn ysbryd i'r drin . . .

Cerddais un prynhawn ar hyd ffordd unig i'r mynydd-dir. Un dyn a welais yn ystod milltir oedd o gerdded. Gweithiwr deugain oed neu ragor, ffon tan ei law, pac bychan ar ei gefn. Cyfarchodd fi yn Saesneg, gan holi am y lle nesaf y cai'r traen. Hen filwr ydoedd, meddai, wedi bod ysbaid yn gweithio mewn gwaith mwyn yn y mynydd-dir. Clywsai am yr helynt. Cychwynnodd rhag ei flaen, cyn dyfod galwad, i chwilio am y traen a'i dygai at orchwyl oedd ar y pryd, efallai, yn edrych yn ddewisach iddo na'r gorchwyl a adawodd. Dywedais y newydd a ddarllenswn wrtho, rhennais fy nhybaco ag ef, cyfarwyddais ef i'r lle nesaf y cai draen. Cododd ei gap i mi