Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac ymlaen ag ef. Popeth a feddai mewn un pac bychan ar ei gefn, yn mynd ar ei gyfer cyn dyfod y gorchymyn. Sylweddolais fod dynion felly, a'u bod eisoes ar eu hynt i ymladd â rhai'r un ffunud â hwy nas gwelsant erioed ac nad oedd un cweryl rhyngddynt â'i gilydd.

Un hwyr, yr oedd gwasanaeth ymostyngiad, fel y gelwid, yn yr eglwys, oedd heb fod ymhell o'r lle yr arhoswn. Euthum yno. Yr oedd yr adeilad yn llawn. Darllenwyd gweddïau arbennig a drefnwyd at yr amcan, a drefnwyd yn weddus hefyd. Nid oedd ynddynt awgrym mai dyletswydd Duw oedd bod ar un ochr. Yr oedd y canu yn rhagorol, yn enwedig y canu salmau. Cawsom bregeth oedd, yr wyf yn sicr, yn gwbl onest, ond bod cyfnod neu ddau o wahaniaeth rhyngddi ag agwedd y gweddïau. Nid oedd Duw ynddi hi onid Duw tylwythol, Duw un gainc o drigolion yr ynys hon hefyd, ac ym ddengys mai ei ddial ef am droseddau politicaidd y cyfnod oedd y rhyfel. Nid oedd ar y bregeth gymaint ag ôl mudiadau a datblygiadau canrif yn syniadau'r eglwys ei hun am y byd a'r greadigaeth a pherthynas Duw a dynion. Yr oedd dysgeidiaeth y bregeth yn syml ac elfennol iawn, yn