Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwbl gyntefig, yn wir. Nid fel beirniadaeth na chondemniad yr wyf yn dywedyd hynny, ond fel ffaith seml, a ddengys mor anodd yw i unpeth onid greddf gyntefig lywodraethu dynion ar rai adegau. Nid ymddengys fod dysg na gwybodaeth yn cyfrif pan ddêl y dwymyn, na bod y pwyll a'r farn, yr ystyrir eu bod, yn gyffredin, yn anhepgor ym mhob agwedd ar fywyd gwareiddiedig, mwy yn gallu gweithredu. Syml ac elfennol iawn, yn sicr, oedd cymhelliad yr hen filwr a welswn yn cyrchu ar ei gyfer wrth alwad ias yr arswyd cyntefig sy'n diffrwytho pob cynneddf uwch a ddatblygodd dynion ym mylchau cymharol dawel eu hanes tymhestlog yng nghwrs yr oesau. Hynny oedd ystyr y bregeth, a thrist oedd gorfod teimlo mai ê, gan orfod amau a fydd hi byth amgen nag y bu. Sylweddolais fod dynion digon gonest hefyd yn synio am Dduw a dyn wrth rym y reddf gyntefig, a'u bod hwythau yn eu ffordd eu hunain eisoes yn ymladd â rhai tebyg iddynt ar yr ochr arall, rhai nas gwelsant erioed ac na allai fod un cweryl rhyngddynt fel dynion.

Fore drannoeth, dychwelwn wedi bod yn chwilio am bapur newydd. Ar y ffordd, cyfarfum â hen ŵr tal. Barf weddol laes ganddo,