wedi britho'n drwm. Dillad go gyffredin am dano. Golwg braidd yn welw. Llygaid tawel, tirion, a dynnai sylw dyn. Cyfarchodd well i mi, a gofynnodd gwestiwn pawb y dyddiau hynny— beth oedd y newydd. Buom yn ymddiddan yn hir. Cymraeg â blas arno ganddo, a'r synnwyr cryf a geir gan wladwyr syml wedi treulio oes yn agos at natur. Wedi sôn cyffredinol am yr helynt, gofynnodd i mi pa beth oedd fy meddwl mewn gwirionedd am y cyffro. Dywedais mai fy nhuedd gref oedd credu nad oedd wahaniaeth rhyngddo a phob rhyfel a fu o'i flaen. Edrychodd. yn graff arnaf, yna gofynnodd:
"A pha beth meddech chwi am y lleill?"
Dywedais mai ffrae rhwng cnafon oedd pob rhyfel wrth farn y ffilosoffyddion pennaf y gwyddwn amdanynt.
"Y mae'n fwy na thebyg," meddai, "ond beth am y miloedd cyffredin?"
"Wel," meddwn, "ffyliaid y bydd ambell ffilosoffydd yn galw'r rheini, nid mewn ystyr ddrwg, efallai, ond galwn hwy'n ddynion di niwed. Ni wn i am ddim tebycach fel esboniad na bod y cnafon pan ffraeont yn gyrru'r diniwed i