Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Albrecht—a thybiwn ei fod ef unwaith yn dew. Yr oedd breuddwyd hefyd yn ei lygaid gleision yntau, ond nid megis yn llygaid Vassili. Yr oedd y ddau'n ddynion o ddysg, a heb ddim rhodres.

Tyfodd ein cydnabyddiaeth drwy ryw hanner cellwair am ysbaid. Nid bod y naill yn amau'r llall. Byddem fel pe baem ar fin cyfeillgarwch nes, ond hefyd fel pe mynnem ei ohirio, yn hytrach na'i rwystro. Weithiau, digwyddai rhyw beth a fyddai megis yn cilagor y ddôr oddi mewn, ond rywfodd neu gilydd, dôi'r hanner cellwair yn ei ôl, bob amser yn rhywiog ei naws, ond nid yn anfynych yn beth y gallasai eraill dybio nad oedd ond anystyriaeth ag ynddi radd o ryfyg. Ond fe wyddem ni yr achos.

Un hwyr hyfryd yn y gwanwyn, a ninnau'n eistedd yn ddistaw yn y cyntedd, wedi blino heb yn wybod, ond odid, ar ein hymddiddan cyffredin, codwyd cwr y llen oddi ar y peth oedd y tu ôl i'n cellwair, am ryw eiliad. Yr oedd yr haul yn ymachlud yng ngogoniant lliw gwaed a fflam ac orain. Fry yr oedd glas dwfn ffurfafen y Dwyrain, yn feddal a di-gwmwl. Tua'r dwyrain arhosai