adlewych rhosynnog, fel y gwrid ar rudd plentyn, a hwnnw'n araf wywo'n las dwfn yn ei dro. Tua'r gorllewin, troi'r anialwch yn ddu ac yn dduach, megis pe byddai fry gyson ysgwyd rhyw adanedd aruthr a bwrw i lawr eu cysgodion tywyll. Nid oedd afon Nil onid llain llwyd yn y gwyll, ac yr oedd pyramidiau Sakkarah a Ghizeh, a fuasai gynnau'n glir a llym mewn llif o ambr tawdd, bellach yn aruthr ac aneglur ym mhlygion y nos.
Buasem efallai hanner awr yn mud wylio miragl gymysg dydd a nos, y prydferthwch anhraethadwy hwnnw nas gwelir yn iawn onid mewn distawrwydd di-symud. Yn sydyn clywid gweddill llais bâs dwfn yn rholio allan beroriaeth geiriau Vergil:
Majoresque cadunt altis de montibus umbra.
Troesom at Vassili, heb ddywedyd gair, ac ail adroddes yntau'r llinell, yn araf a difrif. "Superbe!" meddai Albrecht, yn isel, "encore, une fois." (Ffrangeg fyddai cyfrwng rhwyddaf ein hymddiddan.) Ond distaw fu Vassili, a syllai ar y gymysgedd o goch a glas oedd fel pe'n