Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymwingo lle'r aethai'r haul i lawr. Yna, â llais dyfnach a chadarnach, adroddes linellau Catullus:

Soles occidere et redire possunt,
Et nobis cum semel occidit brevis lux,
Nox est perpetua una dormienda.

Tinc y gloch ginio. "Manger, toujours manger!" meddai Albrecht tan ei lais.

Torrwyd yr hud. Gwahanu mewn distawrwydd. Ond datguddiwyd rhywbeth heblaw prydferthwch nos y Dwyrain yn yr awr honno. Ni chellweiriem lawn cymaint wedyn. Dôi'r cydofid i'r golwg drwy'r ewyn ar yr wyneb. Ychydig ddyddiau wedyn, eisteddwn yn yr un man. Yr oedd hi yn dywyll. Buaswn fy hun yn gwylio gwyrth yr ymachlud, ac wedi cinio, daethwn allan i ddarllen wrth oleuni'r lamp drydan yn y cyntedd. Yr oedd awel yr hwyr o'r gogledd-orllewin wedi peidio, a'r dymheredd eto wedi tyneru. Miliynau o bwyntiau bychain o ruddaur yn brathu drwy las tawel y ffurfafen, gan ysgafnhau calon dyn ac yna ei llethu drachefn ag anobaith y peth nad oes gyrraedd arno. Ymnyddai rhyw darth gwyn tenau uwchben ac o amgylch y palmwydd gyda'r afon yn y pellter.