O ryw gaban dros y ffordd, codai undon leddf gweddi rhyw Fahometan blin, gan nofio gyda sicrwydd ymddiried llwyr ar yr awyr feddal, ac ymgolli yn y chwalfa ddiderfyn, lle'r oedd Allah. Deffrowyd atseiniau El Mokkatam gan chwiban iad agerbeiriant, yn torri fel cri pechod ar fyd o ddiniweidrwydd a thangnefedd, ond a ddarfu mewn tawelwch oedd ddyfnach oblegid yr ysgrech. A darllenwn innau heb ddeall, a da fuasai gennyf fod yn Fahometan, ag iddo o leiaf un sicrwydd na allai dim ei ysgogi.
Disgynnodd dau gysgod ar y llain golau of flaen y cyntedd. Daethai fy nghymdeithion, a chynhesodd fy nghalon atynt. Eistedd yn ddistaw ennyd. Gorweddai'r llyfr y buaswn yn ei ddarllen yn agored ar fy nglin. "Le Temple Enseveli," gan Maeterlinck, ydoedd. Gafaelodd Albrecht ynddo, darllenodd ddalen neu ddwy yn ddistaw.
"Vraiment," meddai, a chan droi'r dalennau yn ôl, dechreuodd ddarllen ar osteg ddarn lle dywed yr awdur fod hyd yn oed droseddau dyn yn mynd allan o'i fywyd yr eiliad y teimlo ef na allai un demtasiwn nac un grym yn y byd beri iddo wneuthur eu tebyg eilwaith.