Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"YR Hen Dolc." Dyna oedd yr enw a roddem i gyd arno bob amser, a hynny am na welodd neb ohonom erioed mono'n gwisgo het na byddai ynddi ryw dolc arbennig. Bu'n anodd gennyf ddeall fy hun gynt pa fodd y medrai ef bob amser beri tolc a fyddai'n union yr un fath ym mhob het a gaffai. Dyellais wedyn. Ni phrynodd het newydd, yr wyf yn sicr, yn ystod yr wyth mlynedd y bûm i'n byw yn yr un ardal ag ef.

Mab i amaethwr cefnog ydoedd, a thrigai'r teulu yn un o ddyffrynnoedd ffrwythlonaf Gogledd Cymru. Un oedd ei dad o'r dosbarth hwnnw o ffermwyr Cymreig y ganrif ddiwethaf, a fyddai fel pe buasent wedi cadw nodweddion y ddeunawfed ganrif yn gyflawn, dyn mawr cadarn, bonheddig ei olwg, arafaidd ei leferydd, gosgeiddig ei symudiadau, anhraethol foneddigeiddiach ei olwg a'i lais a'i eiriau na'r ysgwieryn hanner gwaed oedd biau'r fferm lle'r oedd ef yn byw.

Dyn gwahanol iawn oedd ei fab, Yr Hen Dolc. Nid oedd yn hen iawn pan adwaenwn i ef, ond edrychai, ar ryw wedd, yn hŷn na'i dad. Dyn