Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'w lety, ac o'i lety i'w ystafell, gwyddem ym mha le i'w gael wrth y goleuni a welem drwy'r ffenestr.

Darllenai lyfrau mawr, fel Hastings' Encyclopædia, o glawr i glawr megis wrth ei bwys, ac nid anghofiai unrhyw ffaith newydd y deuai o hyd iddi. Neidiai i'w lle yn ei feddwl disgybledig, ac yno y safai i'w wasanaethu pan fyddai ei hangen. Bûm yn tybio bod yr awydd am gynnull gwybodaeth ar bob math o bynciau ym mhob cwr o faes diddordeb llawer ehangach na'r cyffredin wedi mynd yn oruchaf nwyd ynddo, fel na fedrai ef mwy wneuthur rhai pethau a wnai gynt. Dywedodd wrthyf ar un achlysur, "Na adewch i'ch dysg ladd eich dawn." Ni wyddwn pa beth yn gymwys a feddyliai, ac ni bûm ddigon hy i ofyn iddo, ond cyn hir ar ôl ei farw, darllenais ysgrif o'r eiddo, a wnaeth pan oedd yn fyfyriwr, y dychan clyfraf a chywiraf ar rai o wendidau bywyd Cymreig a sgrifennodd neb erioed. Ai chwith gan Edward Anwyl ar ôl dawn a aberthwyd er dysg? Nid wyf yn ameu. A oes rywun bellach a ŵyr pa beth a ddaeth o brydyddiaeth un rhan o'i brofiad fel myfyriwr yn Rhydychen?

Pan lefarai, llifai ei frawddegau allan heb ball, heb fyth fefl ar ramadeg na chystrawen, heb fod