unrhyw gymal yn chwithig na thrwsgl, ond ag ôl disgyblaeth glasurol ar bob adran. Oni synnech at ddisgleirdeb unrhyw fflach yma ac acw yn ei waith, rhyfeddech at berffeithrwydd y cyfan yn ei grynswth.
Swynid chwi gan ei Gymraeg perffaith, oedd fel lleferydd Cymro o Leyn na wybu ddywedyd ei feddwl erioed mewn un iaith arall. Deuai'r wên dirion a'r gair cynefin—"Wel, rhyfedd iawn, rhyfedd iawn!" Yna, yn Saesneg, mor rhugl a pherffaith eto, fel na wybuasech ei fyw yn unman ond yn Lloegr. Clywais ef at hynny, mewn cwmpeini lle'r oeddym yn ymdrechu'n boenus i siarad â Ffrancod ac Almaeniaid, yn troi i'r ieithoedd hynny heb anhawster na phall am eiriau na phriod-ddull.
Ac nid peiriant ydoedd ychwaith. Gwelais ef ar y traeth yn Aberystwyth yn edrych ar yr haul yn ymachlud. Safai â'i law ar ganllaw rhodfa glan y môr, a gwên ar ei wyneb. Aeth pedwar ohonom yr oedd inni'r fraint o fod yn gyfeillion iddo, heibio iddo deirgwaith, yn ei ymyl. Ni welodd monom. Ac ni phallodd y wên oddi ar ei wyneb am ugain munud cyfan. Bûm yn sôn wrtho am yr Wyddfa dan oleuni haul Medi pan