yn unig yw dywedyd hynny. Yr oedd rhywbeth tragoedus (os ceir llunio ffurf ar air) yng ngolwg ac yn nhawelwch y Prifathro. Gwelais ef yn ei feistroli ei hun pan oedd yn daro rhwng dwy bersonoliaeth. Rhaid ei bod yn ymdrech iddo gwyddech wrth ei dawedogrwydd—ond ni chollai dawelwch ei olwg am eiliad.
Clywais ef yn siarad ar goedd lawer tro. Prin y gellid dywedyd y byddai byth yn hyawdl, yn ystyr gyffredin y gair hwnnw; ac eto, yr oedd yn hyawdl mewn ystyr dawel, wastad, a gwahanol iawn i'r llacrwydd ymadrodd a'r triciau mân a elwir yn gyffredin yn hyawdledd. Cofiaf yn arbennig am un o'r anerchiadau cyhoeddus olaf a draddododd, onid wyf yn methu. Yn Bootle y bu hynny, adeg Eisteddfod Birkenhead (1917). Sôn yr oedd am un o'i hoff bynciau—addysg Cymru. Dywedodd cadeirydd y cyfarfod—Pedr Hir—na chlywodd ef erioed mo'r Prifathro mor hyawdl, ac yr oeddwn o'r un farn ag ef. Dadansoddodd holl nodweddion pobl gyffredin Cymru, eu dawn helaeth a'u greddfau hael a charedig. Soniodd am y wlad fach arall a garai ef—gwlad Roeg—a dangosodd y llwybrau y dylai addysg Cymru eu cerdded, a'r cwbl gyda