Yr oedd unwaith yn fryd ganddo baratoi at gyhoeddi yn llyfr Cymraeg nifer o ddarlithoedd oedd ganddo ar y dramâu Groeg. Gobeithio bod y gwaith hwnnw eto ar gael. Gofynnodd i mi drosi'r dyfyniadau i fydr Cymraeg iddo, ar gyfer y gwaith. Am ei feirniadaeth ar y cyfieithiadau, cwta oedd hi, ond dangosai ei fod ef mor gyflym i adnabod teithi'r Gymraeg ag ydoedd i weled meddwl ac ysbryd a chrefft y Groegiaid—gresyn na adawsai ei ddyletswyddau iddo hamdden i gyhoeddi llawer ychwaneg ar y pynciau hyn. Cofir am ei gyfieithiad o "The Raven" Edgar Allen Poe—yr unig ddarn o fydryddiaeth o'i waith y digwyddodd i mi erioed ei weled.
Anaml iawn y clywais ef yn chwerthin, ond yr oedd ganddo ryw gychwyn gwên anghyffredin iawn, a gwbl newidiai wedd ei wyneb am eiliad, a dim ond eiliad. Prin yr ysgogai ei wefusau, ond agorai ei lygaid, gloywent hyd eu dyfnderoedd, ac yna, popeth fel cynt. Dywedai rhai a'i cofiai yn fyfyriwr ieuanc mai siaradwr hyawdl a thanbaid fyddai y pryd hwnnw. Yn fuan ar ôl ei benodi'n brifathro Aberystwyth y clywais i ef gyntaf. Tawel iawn ydoedd yr adeg honno. Tebyg mai ei