Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blaidd mawr mewn rhyw gae. 'Now, now,' meddai'r fam, you must not say that. You did not see a wolf. It must have been a dog that you saw, if you saw anything at all. You go and ask God to forgive you.' Aeth y bychan yn ddigon pendrist. Cyn bo hir, daeth yn ei ôl yn llawen, fel pe buasai popeth yn iawn. 'Well," meddai ei fam, did you tell God that you were sorry?' 'Yes," meddai yntau,' and do you know what God said?' Ni fedrai hithau beidio â dywedyd: 'No, what did God say?' 'Well," meddai'r bychan, 'God said, Yes, it was a dog, but when I first saw that dog, I thought it was a wolf too!'"

Ni welais mono ond rhyw unwaith neu ddwy wedyn. Yr argraff a ddaw'n ôl yw'r hanner tristwch hwnnw a ddaeth tros y meddwl wrth wylio'r Dyn yn ceisio cysgu. Wedi oes weddol hir a llawn o ymyl i ymyl, wedi chwilio a meddwl, gwybod a phrofi, wedi gweled a bod yn sicr o bethau ardderchog, dyma dywyllwch a distaw rwydd nas torrir. Ac eto clywaf y llais hwnnw yn adrodd, yn rhyw chwyrn ond mwyn iawn, tra bo'r llygaid yn edrych trwof—"Na, 'dydi o ddim yn mynd i fethu!"