Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tywynnu ar yr arch. Draw ymestynnai'r cwm y bûm yn ei gerdded gynt gydag ef i gyfeiriad y Cwrt Mawr, gan ryw las ofni rhag darfod yn rhy fuan o'r daith ar hyd gwely afon wedi sychu, a hud heulwen araul ar y wlad, nes bod ynom ymsyniad ein bod bron ar hiniog y byd nad yw'n darfod. Canai'r dorf. Yr oedd yno un a glywai chwerthin iach cwmni bychan a fu gynt yn agor hen aelwyd gyn cof, i fyny'r cwm hwnnw, a llawenydd a chyfeillgarwch yr hwyr, pan ddoi tawelwch swrth dros fro, a su'r gwenyn gwylltion yn y coed rhosyn ar furiau'r tŷ yn gyson a mwyn. . . . A heno, y mae Cymro gwych arall yn huno yn naear sant Langeitho.

1926, 1930.