Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wastad ei gefn yn ei wely fel yr oedd. Cyn hir, meddai: "Ych chi'n mwynhau hwn, Gwynn?" Ofnaf i mi alw yr Arglwydd mawr yn dyst mai fel arall yr oedd. Galwodd yn ebrwydd ar y Gwyddel caredig a ofalai amdano. Daeth yntau. "Stop that damned thing!" meddai llais a'r hen chwerthin ynddo, ac aethom i adrodd ystraeon. Yr oedd yn feirniad campus ar brydyddiaeth, ond i'w blesio, byddai raid iddi gynnwys yr un peth anhepgor—cymeriad. Mawrygai gyfeillgarwch yn arbennig, ac yn sicr ni bu neb erioed ag iddo fwy o gyfeillion.

Pan aem i Langeitho i'w hebrwng i'w hir gartref, gorweddai niwl gwelw yn dorchau ar y bryniau a'r coed, a'r dagrau mân ar y cawn a'r glaswellt, yn ddirifedi, "Fel grawn, fel adar, fel gro neu flodau." Ymlaen â ni, garr ar ôl carr, y naill yn diflannu yn y niwl o flaen y llall, a'r dirgelwch o hyd ymlaen. Pan gyrhaeddwyd Tregaron, treiddiodd yr haul drwy'r niwl, cododd yntau'n araf. Wedi'r glaw, yr oedd y coed mor iraidd a phe bai wanwyn. Daeth yr hen fynyddoedd i'r golwg, a'u lliwiau hwythau'n fyw i gyd. Ac yno, pan roed ef i orwedd heb fod ymhell oddi wrth golofn Daniel Rowland, yr oedd heulwen ysblennydd yn