ond bod ei lais, hwyrach, ronyn yn sychach nag arfer, a'i frawddegau'n gwteuach. Cyn pen dau funud wedi setlo'r mater, chwarddai fel pe na buasai dim yn y byd wedi digwydd. Fel trefnwr a chyfeiriwr, anodd cael ei debyg. Hyd yn oed yn ei afiechyd hir, yr oedd ei ben mor glir a'i feddwl mor fyw ag erioed. Gwelai ymhell, barnai'n gywir ac yn gyflym, gweithredai'n esgud a chadarn, byddai garedig a thosturus.
Bu'n amlwg iawn, eto ni charai amlygrwydd. Nid hoff ganddo dynnu ei lun, a chredaf nad wyf yn methu wrth ddywedyd bod rhyw elfen yswil ynddo hefyd. Nid wyf yn meddwl bod cerddoriaeth yn ddiddorol iawn iddo. Unwaith y gwelais ef yn gorfod gwrando ar beth a elwir yn "symffoni" ddiweddar. Tybiwn ei fod mewn poen, fel yr oeddwn fy hun, ond chwerthin a wnaeth ef, pan gawsom ddihangfa o'r diwedd. Y tro diwethaf y gwelais ef, ar brynhawn Sul ryw fis cyn ei farw, gwrandawem ar y wireless—rhyw ganu ac actio o Loegr, llais rhyw ddandi, gallech dyngu bod rwff am ei wddf ac eddi ar flaen ei lewys a gwyntyll yn ei law. Yr oeddwn i wedi laru ar y peth, ond yn edrych mor ddiboen ag y gallwn, rhag ofn bod y peth yn ei ddifyrru ef, ar