Tudalen:Cymeriadau T. Gwynn Jones.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dafydd Ifans, Llanrwst; Gwilym Cowlyd; Myrddin Fardd, a llawer eraill y cyfarfu â hwynt, gwyddai eu hanes yn fanwl a chymerai'r diddordeb llwyraf yn eu nodweddion, eu mympwyon a'u gweithredoedd. Goronwy Owain, y Morysiaid, y Prydydd Hir, Robert Roberts, yr hen ddewiniaid Cymreig gynt, fel John Dee, John Evans, Arise Evans, Jac Ffynnon Elian, Harris Cwrt y Cadno, etc., gwyddai eu hanes i gyd, ac eraill na chlywodd y rhan fwyaf ohonom erioed mo'u henwau. Hen ysgolheigion gynt a hen gasglwyr llyfrau a llawysgrifau, achau teuluoedd, hen weithredoedd ac ewyllysiau, llythyrau personol, traddodiadau gwlad, anferth ddigrifwch hen gymeriadau rhyfedd,—synnai dyn sut byth y cawsai amser i gasglu'r fath ystôr ohonynt a'r fath wybodaeth helaeth a manwl amdanynt.

Eto, fel gŵr cyhoeddus. Gwelais ef yn llywyddu llawer cyfarfod anodd i'w drin, ac nis gwelais erioed yn cymryd cam gwag. Adwaenai ddynion yn dda; meddai reol berffaith arno'i hun hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf anodd. Unwaith, yn ystod cyfarfod hir a chyffrous, gwelais ef a'i wyneb yn wyn fel y galchen, ond nid oedd gryndod yn ei lais nag arwydd cyffro yn ei osgo, dim